Doedd dim angen i mi brynu llyfr o farddoniaeth fel anrheg Nadolig i mi fy hunan eleni - mi gefais 625 o anrhegion oddi wrth feirdd ifanc Rhydfelen (247), Cymer (90), Plasmawr (188), Llanhari (61) a Glantaf (39). Diolch i chwi i gyd am fynd i'r fath drafferth ac i bwy bynnag fu'n eich annog i gystadlu. Gwn hefyd fod rhai ysgolion wedi bod yn garedig iawn â'r beirniad drwy chwynnu ychydig cyn anfon y cynnyrch ato! Felly nid yw'r cyfanswm ddaeth i law'r beirniaid yn golygu mai dyna'r cyfan gafodd eu cyflwyno ym mhob ysgol.

   Rwyf wedi darllen pob un - rhai ohonyn nhw drosodd a throsodd ac wedi mynd yn nerfus iawn wrth geisio eu rhoi mewn trefn ar gyfer y gystadleuaeth hon. Rwy'n dal i gofio bod rhywun, rywdro, wedi methu gweld addewid mewn pedwar gwr ifanc ddaeth yn enwog fel y Beatles! Felly, i bawb sydd wedi anfon ymgais, cofiwch mai barn un person sydd wedi dewis y rhai ddaeth i'r brig, fod chwaeth pawb yn wahanol ac ei bod yn gwbl bosibl i feirniad arall roi rhywun cwbl wahanol yn gyntaf! Felly, os na chawsoch wobr y tro hwn - daliwch ati - mi gewch gyfle eto cyn diwedd y mileniwm newydd!

   Yn awr at y cystadlaethau unigol ac rwyf am gychwyn gyda'r dyfarniad hawdd - a hynny am mai dim ond un oedd yn cystadlu:


CYSTADLEUAETH AGORED Blwyddyn  7 - 13:

"Jôc ar ffurf Cerdd"

Dim ond un fentrodd i'r categori hwn ond diolch i'r drefn mae'r bardd yn ymddangos yn hen law ar dynnu coes. Helyntion "Urddaholic" sydd dan sylw - un sy'n gorfod mynd yn fisol am ffics i Wersyll Glanllyn. Roeddwn wedi gobeithio am ddarn mwy Dewi-Pwsaidd lle mae jôc gyfarwydd wedi ei gweithio ar ffurf cerdd. Serch hynny, mae'r ymgeisydd yn llwyr deilyngu'r wobr. Gan obeithio y bydd mudiad yr Urdd yn maddau iddi hi am y tynnu coes (ac i minnau am ei gwobrwyo)!

1  Catrin Dafydd

Ysgol Gyfun Rhydfelen


CYSTADLEUAETH IOLO MORGANWG

CYSTADLEUAETH Blwyddyn 12 & 13 : "Gwahoddiad"

Dwsin o ymdrechion ddaeth i law - deg o Ysgol Rhydfelen a dau o Ysgol Y Cymer. Fel y byddech chi'n disgwyl oddi wrth ymgeiswyr yr oedran hwn, dwy flynedd dosbarth 6, maen nhw'n canu o'r galon ac wedi cyflwyno gwaith glanwaith iawn. Braf iawn yw gallu tystio fod ganddyn nhw droeon ymadrodd bywiog a gwreiddiol. Ac eithrio ambell lithriad mae ganddyn nhw hefyd Gymraeg gwerth chweil o gywir - llongyfarchiadau i bob un ohonoch chi.

   Mi gyfeiriaf atyn nhw fel y daethon nhw allan o'r amlen - nid yn nhrefn teilyngdod. "Pedwar gair bach" a newidiodd ei bywyd sydd gan Gemma Thomas (Rh). Disgrifiad ysol o noson ddiniwed drodd yn drasiedi. Cerrig milltir ei gyrfa ysgol yw thema Rhian Morris (Rh) - gyda nodyn optimistaidd i gloi. Mae nifer wedi dewis gwahoddiad i barti fel sail i'w cerddi - yn eu plith Aeronwy Davies (Rh) sy'n gwahodd i barti lle mae dawnsio a chwarae gemau. Gweld dathliadau'r mileniwm roedd Kelly Jones (C) - a'u gweld yn rhai gwag iawn. Gwahoddiad yn ystod y ddawns yw'r stori adroddir gan Aneirin

Cystadleuaeth farddonol i ddisgyblion Ysgolion Uwchradd yr ardal.

Sylwadau'r beirniad, Ifan Roberts.

Urddaholic


Rwy'n 'Urddaholic' erbyn hyn,

Yn 'hwcd' ar yr hen ferlota

A fedra i ddim mynd drwy'r dydd

Heb ddos go fawr o 'sgota.


Fe af i 'Rehab' cyn bo hir,

Mae'n rhaid, wy'n dechrau britho.

Rwy'n mynd bob mis i'r hen Glanllyn

Caf harten â'r holl gyffro!


"Mae Mr Urdd yn annog hyn?"

Medd Mam yn grac un nosweth

"Cael bowlio deg a lawr i'r pwll

Mae'n cael pob math o effaith!"


Mae Doctor Jones yn dod am wyth

Rwy'n chwysu ac yn crynu.

Mae'r cyffur hwn yn lot rhy gryf

'Dyw e rîli ddm yn ffyni!


  Catrin Dafydd

Karadog (Rh). Mae gan hwn ddawn handlo geiriau ac mae tro annisgwyl yng nghynffon y gerdd, os nad yn wir yng nghynffon Danielle, testun yr holl ddigwyddiad! Mae gan Emma Griffin (C) gân faith o wahoddiad i'r un mae hi'n garu ymuno â hi - piti na fyddai hi wedi parhau mor gynnil ag y cychwynnodd hi, mi fyddai wedi bod yn uwch yn y gystadleuaeth:

"Mae hiraeth mewn colled

ac eisiau mewn serch".

Dadlennu cyfrinachau darparu ar gyfer partïon y Mileniwm mae Mari Griffiths (Rh) ac Eleri Owens (Rh). Os mai fel'ny buodd hi - roedd hi'n swnio'n sbort!

   Mae cywair mwy dwys i rai o'r lleill - dyna i chi Anwen Heney (Rh) yn gwahodd un sydd heb ei eni eto "i glywed, i gyffwrdd, i grio, chwerthin, gweiddi, profi.......byw". I'r gwrthwyneb, gwahoddiad i farwolaeth" sydd gan Sali James (Rh) yn ei cherdd. Ond mae hi'n gorffen ar nodyn o obaith. Gwahoddiad Arglwydd Kitchener i ddarpar-ricriwts y Rhyfel Byd Cyntaf ysgogodd Hefin Karadog (Rh) i ganu - cerdd arall gyda neges oesol - a gwahoddiad i deimlo, arogli, blasu a chlywed a phrofi gwyrthiau natur sydd gan Caroline Cowles (Rh).

Maen nhw i gyd yn ddidwyll, maen nhw i gyd yn dda ond os oes raid dewis, yna fel hyn maen nhw'n sefyll:


1  Anwen Heney

  Ysgol Gyfun Rhydfelen

2  Kelly Jones

Ysgol Cymer Rhondda

3  Aneirin Karadog

Ysgol Gyfun Rhydfelen

Catrin Dafydd

Tudalen Nesaf >