|
www.tafelai.net |
|
Chwefror 2000 |
|
Rhif 144 |
|
Pris 25c |




|
tafod elái |
|
GWOBR CWRICWLWM YSGOLION 2000 Y mae Ysgol Evan James, Pontypridd newydd dderbyn y newyddion eu bod wedi ennill gwobr anrhydeddus iawn sef GWOBR CWRICWLWM YSGOLION 2000. Rhoddir y wobr hon i ysgolion sy'n dangos ansawdd a safon uchel yn eu gwaith ac yn rhoi'r ysgol yng nghalon y gymuned. Fe brofodd Ysgol Evan James ei bod yn ysgol sy'n dangos sut y mae defnydd o etifeddiaeth, o gymuned ac amgylchfyd yn cyfoethogi ansawdd bywyd ac addysg ei disgyblion. Y mae'r Wobr Cwricwlwm yn cael ei noddi gan adrannau'r llywodraeth a diwydiant preifat ac yn cael ei gweinyddu gan elusen annibynnol.Y gwaddolwyr gwreiddiol yw Cymdeithas Swyddogion Addysg a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg yr Alban. Bu'r ysgol trwy nifer o brosesau i ennill y wobr gan gynnwys archwiliad arbennig yn ystod Tymor yr Haf. Ar ôl y Pasg fe fydd dirprwyaeth o'r ysgol yn mynd i Ganolfan y Barbican, Llundain i dderbyn y wobr. Cyn hynny bydd yr ysgol yn trefnu cyngerdd mawreddog i ddathlu'r achlysur yng Nghanolfan y Ddraenen Wen. Dywedodd Wil Morus Jones y pennaeth fod y wobr anrhydeddus hon yn adlewyrchiad o ymroddiad a phroffesiynoldeb y staff ac o gefnogaeth ymarferol y llywodraethwyr a'r rhieni. |
|
Daeth athrawon, cyn athrawon, disgyblion a chyn-ddisgyblion Ysgol Gymraeg Pont Siôn Norton at ei gilydd i ennill cystadleuaeth genedlaethol cyfansoddi a chanu carol. Darlledwyd holl ymgeisiadau'r gystadleuaeth ar deledu S4C Digidol yn ystod prynhawniau ym mis Rhagfyr. Cyhoeddwyd yr enillwyr ar raglen 'Heno' y nos Fercher cyn y Nadolig. |

|
Cyfraniad Pont Siôn Norton oedd 'Gwyrth y Nadolig'. Cyfansoddwyd y geiriau gan Lyn Jones, un o gyn-ddisgyblion yr ysgol, a'r gerddoriaeth gan Dyfan Jones. Mrs Dorothy Todd a Mrs Caryl Williams oedd y cyfarwyddwyr cerdd. Cyflwynwyd tlws grisial a siec i Ms Meira Evans, prifathrawes yr ysgol, yn stiwdio 'Heno' a chafwyd canmoliaeth haeddiannol gan feirniaid y gystadleuaeth. |
|
Pencampwyr Cystadleuaeth Carol Nadolig |
|
LLOND SACH O GERDDI YN ANRHEG NADOLIG Doedd dim angen prynu llyfr o farddoniaeth fel anrheg Nadolig i Ifan Roberts eleni - fe ddaeth 625 o anrhegion oddi wrth feirdd ifanc yr ardal. Unwaith eto roedd Cystadleuaeth Iolo Morganwg i feirdd ifanc ysgolion cyfun y fro yn llwyddiant ysgubol ac roedd y beirniad, Ifan Roberts, wedi'i blesio gyda safon y beirdd. Diolch i Ifan Roberts ac i Rhys Dafis am drefnu'r gystadleuaeth hon. |