www.tafelai.u-net.com

Mawrth 2000

Rhif  145

Pris 25c

tafod elái

CWRS HYFFORDDI ARWEINYDDION

Cynhaliwyd 'Cwrs Arweinyddion Aelwydydd ac Adrannau' i bobl ifanc dros 16 oed yng Nghanolfan Cwrt y Cadno, ger Pumpsaint rhwng 11 a 13 Chwefror. Trefnwyd hyn ar y cyd rhwng Yr Urddaholics, CIC(Prosiect Ieuenctid Menter Iaith,Yr Urdd a Chyngor RCT ), a Menter Bro Ogwr.

   Roedd y cwrs yn gyfle i bobl ifanc ddysgu i fod yn arweinwyr mewn clybiau ieuenctid Cymraeg a chyfle i gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg gyda disgyblion o ysgolion eraill. Roedd 22 yn bresennol ar y cwrs yma a daethant o ysgolion Rhydfelen, Llanhari, Y Cymer, Cwm Rhymni a Glantaf.

   "Mae'n bwysig i hyfforddi ein harweinyddion ifanc er mwyn sicrhau dyfodol ein hadrannau ac aelwydydd."dywedodd Ian Saunders,Swyddog Datblygu 16+ yr Urddaholics.

   " Roedd y cwrs yma yn llwyddiant ysgubol" dywedodd Rhodri Francis o CIC'. "Roedd yr ysbryd a chyfeillgarwch a grëwyd gan ddisgyblion y gwahanol ysgolion yn wych. Mae'n grêt i weld yr Urdd a'r Mentrau Iaith yn dod at eu gilydd a threfnu gweithgareddau ar y cyd"

   Yn ôl trefnwyr y cwrs, maent yn awyddus iawn i gynnal cwrs tebyg ym mis Awst.

ANGEN GWAED NEWYDD


Mae nifer o aelodau pwyllgor Clwb y Bont yn bwriadu gorffen gyda'u dyletswyddau eleni ar ôl sawl blwyddyn o wasanaeth. Mae'r Cadeirydd, Trysorydd a'r Ysgrifennydd yn teimlo bod angen gweledigaeth a gwaed newydd er mwyn sicrhau dilyniant a pharhad i'r Clwb sydd bellach ar dir cadarn.

   Yn y Cyfarfod Blynyddol ar nos Fercher, 8fed Mawrth bydd cyfle i'r holl aelodau fynegi barn ar y gweithgareddau a dyfodol y Clwb. Yn bennaf mae angen cefnogaeth i sicrhau llwyddiant y fenter hon sydd wedi dod yn rhan allweddol o fywyd yr ardal.

DYFEISGARWCH WRTH GYSTADLU


Roedd angen llogi storfa eleni ar gyfer y cannoedd o gynhyrchiadau a ddaeth i Gystadleuaeth Gwyl Ddewi 2000 Tafod Elái. Yn ogystal â'r gwaith ysgrifenedig derbyniwyd nifer mawr iawn o fodelau a lluniau ac fe lwyddwyd i lenwi car Betsi Griffiths, trefnydd y gystadleuaeth, dwy waith i'r ymylon. 

   Ac roedd y beirniaid wedi eu plesio gyda safon y cynnyrch ym mhob blwyddyn gan roi clod arbennig i ysgolion Cymraeg yr ardal.

   Diolch i bob ysgol a gymerodd rhan yn y gystadleuaeth ac i'r beirniaid am gloriannu'r gwaith.

CÔR

CERDD DANT

YN DATHLU


Ar ddiwedd mis Ionawr galwyd ynghyd holl gantorion a chyn-gantorion Merched y Garth ar gyfer penwythnos i ddathlu 21 mlynedd o lwyddiant y côr. Mae'r côr wedi ennill naw gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol, pum gwaith yn yr Ðyl Gerdd Dant ac wedi bod yn bencampwyr yr Ðyl Ban-Geltaidd. Digon o reswm i wario noson gyfan yn hel atgofion, cael sioe ffasiynau o hen ffrogiau'r côr a gweld fideos o'r hen ddyddiau  mewn gwesty moethus ym Mae Caerdydd.

Merched y Garth


Mae'r ias ynom â'r seiniau - yn agor

        Y neges mewn geiriau;

   Swyn y gainc a'r gerdd sy'n gwau

   Mewn në o harmonïau.


Rhys Dafis

Tudalen Nesaf >

<Nôl i Dewis