|
BLWYDDYN 5 Beirniad: Gwenfil Thomas Ysgrifennu am "Ddoe" neu "Yfory" Roedd nifer o ymgeiswyr wedi cynnig eleni eto. Llongyfarchiadau am bob ymdrech. Cafwyd cryn amrywiaeth yn y cynnwys ac mae'r canlyniad yn adlewyrchu hyn. Mae'r ddau sy'n gydradd gyntaf yn mynegi eu dymuniadau am y dyfodol yn fanwl, diddorol a chywir. Anodd oedd eu gwahanu am i'r ddau fynd ar yr un trywydd. Tra bod y mileniwm yn ein gwahodd i edrych ymlaen bwrw golwg nôl ar y ddoe hanesyddol wnaiff Lowri. Byd ffantasi gawn ni gan Sian wrth iddi ein tywys ar drip i'r lleuad - bydd unrhywbeth yn bosib yfory! Da iawn chi - daliwch ati i ysgrifennu. 1. Iolo James, Ysgol Llantrisant 1. Mair Roberts, Ysgol Llantrisant 2. Lowri Hughes, Ysgol Creigiau 3. Sian James, Ysgol Gwaelod y Garth BLWYDDYN 5 Beirniad: Gwenfil Thomas Llun: "Fy hoff dymor" Cystadleuaeth ddiddorol. Roedd collage (gludwaith) yr enillydd yn wych, yn cyfleu dychymyg, lliw a naws y gaeaf ond gyda chynhesrwydd. Yn y collage sy'n rhannu'r ail safle defnyddiwyd aml-gyfrwng oedd yn cynnwys techneg brodwaith effeithiol. Yn y darlun ymdodda'r lliwiau'n hyfryd i greu effaith noson gynnes o haf ddramatig iawn. Yn y ddau collage sy'n rhannu'r drydedd wobr eto dangoswyd cryn ddychymyg yn y defnydd trawiadol o eitemau bob dydd. Dylid crybwyll tri arall am ymdrechu'n dda iawn yn eu hymwneud â defnyddiau neu eu cynnwys - Emily Frowen, Charlotte Iveson ac Angharad Cullimore o Ysgol Evan James. 1. Mathew Truelove, Ysgol Evan James 2. James Bolderson, Ysgol Evan James 2. Ceri Tucker, Ysgol Gwaelod y Garth 3. Zoe Padfield, Ysgol Evan James 3. Owain Ellis Thomas, Ysgol Evan James |
|
Yfory Yn y dyfodol hoffwn gael Gradd A ym mhob pwnc yn lefel A. Hoffwn astudio y pynciau Gwyddoniaeth, Cymraeg, Technoleg, Hanes a Saesneg. Hoffwn i fynd i goleg da iawn. Yn y coleg hoffwn i gael bywyd gwych wrth baratoi i fod yn aelod o MI6 sef cwmni James Bond i chi a fi. Hoffwn i gael car arian cwl gyda llawer o daclau ynddo. Bydd y taclau yn dda iawn ar fy nheithiau hir o gwmpas y byd. Hoffwn i fod yn nofiwr penigamp fel James Hickman. Hoffwn ennill y fedal aur sgleiniog ym mhob ras. Hoffwn nofio yn y gemau Olympaidd ac ennill medal. Pan fyddaf yn dod adref bydd y dorf yn taflu blodau ac yn gweiddi fy enw "IOLO" "IOLO". Efallai bydd yna drydydd rhyfel byd a bydd pobman yn cael ei fomio yn wael. Bydd yr Almaen yn talu nôl am yr ail ryfel byd. Bydd arfau newydd a dinistriol yn cael eu defnyddio. Rydw yn gobeithio na fydd hyn yn digwydd oherwydd bydd yn chwalu'r byd yn racs. Yn y dyfodol hoffwn weld pobl ar y strydoedd yn cael mwy o arian, tai cyfforddus a bwyd gwell. Bydd yr hen dai yn cael eu hadeiladu yn well eto a fydd neb yn byw ar y strydoedd gwyllt. Fe fydd yn rhyfeddol pe bai pobl yn rhoi ysmygu a chyffuriau lan am byth. Hoffwn weld tabledi yn cael eu rhoi mas i atal ysmygu a chyffuriau. Efallai yn y dyfodol fe fydd fy nheulu caredig yn byw yn y gofod tywyll a'r planedau rhyfeddol mewn un adeilad anferth. Bydd y ceir cyflym yn hedfan a bydd llai o draffig ar y strydoedd llydan. Bydd y gynnau cas wedi eu gwahardd oherwydd y difrod maen nhw wedi gwneud a bydd pob arf arall yn y byd wedi ei gwahardd hefyd. Rydw i'n gobeithio bydd Nain a Taid yn dal yn fyw ac yn iach ac yn gryf oherwydd maen nhw'n gadael i'r teulu aros yn eu ty unrhyw amser o'r flwyddyn. Pan fydd Mam a Dad yn mynd i rywle yn y gogledd bydd Nain a Taid yn gadael i ni aros yn eu tþ nhw. Yn y dyfodol efallai bydd teledu sinema anferth yn eich lolfa yn Ile teledu bach. Byddwch chi'n gallu newid y sgrîn i fod mor fawr neu mor fach a rydych chi eisiau. Byddwch yn gallu dewis unrhyw ffilm neu sianel gyffredin fel BBC 2 a S4C. Bydd y piano drudfawr wedi newid i fod yn gyfrifiadur. Bydd y bysellfwrdd yn troi mewn i nodau piano. Bydd gan y cyfrifiadur bob copi yn y byd arno. Byddwch chi'n teipio enw'r gan a bydd y copi yn dod yn syth bin. Yn yr ysgolion bydd gan bob plentyn gyfrifiadur pen-glin i wneud gwaith caled neu hawdd bydd eich athro neu athrawes yn gosod. Yn y dyfodol efallai bydd helmedau allwch chi brynu yn gadael i chi ddeall unrhyw iaith yn y byd. Bydd yn ddefnyddiol oherwydd os byddech chi'n mynd i wlad arall a dydych chi ddim yn gwybod sut i siarad eu hiaith yna byddwch yn defnyddio yr helmed. Bydd pob offeryn yn drydanol oherwydd bydd mwy o swn yn cael ei greu. Rydw i'n gobeithio bydd Tomos, Joshua, Dafydd a Jack yn dal yn ffrindiau i mi ond ni fydd ots pe bai nhw'n byw yn bell iawn i ffwrdd. Bydd y chwaraewyr rygbi cryf yn cael mwy o arian am chwarae rygbi oherwydd mae'r peldroedwyr cyfoethog yn cael Ilawer mwy o arian na chwaraewyr rygbi. Rwy'n siwr bydd llawer o newidiadau yn y dyfodol. Bydd y byd yn newid yn llwyr oherwydd y newidiadau rhyfeddol yma. Iolo James Ysgol Gymraeg Llantrisant |
|
Mair Roberts a Iolo James |
|
9 |
