BLWYDDYN 6

Beirnaid: Meirion Lewis

Ysgrifennu:  "Dyna i chi ddathlu!!"

Cefais lawer o fwynhad wrth ddarllen ac ail-ddarllen, pwyso a mesur, dewis a dethol y cyfansoddiadau. Roedd y testun yn addas ac amserol iawn a chafwyd ymateb da gan y plant. Wrth feirniadu roeddwn yn edrych am ymgeiswyr oedd yn dangos y gallu i fynegi eu hunain mewn iaith naturiol gan gyflwyno cystrawennau, priod ddulliau a chymariaethau heb ei gorwneud hi i adlewyrchu'r cyffro yn y dathliadau.

   Cafwyd y testunau disgwylieidig, gyda mwyafrif y plant, wrth gwrs, yn canolbwyntio ar "Y Mileniwm". cefais fy synnu wrth ddarllen bod rhai teuluoedd wedi mynd i Gromen y Mileniwm ac ambell un wedi mynd i bellafoedd y byd.

   Roedd y dasg o ddewis y tri gorau yn un anodd iawn gyda nifer o blant yn haeddu canmoliaeth uchel.


1. Aled Wilcox, Ysgol Evan James.

2. Rhys Waterworth, Ysgol Creigiau

3. Beti Thomas, Ysgol Pont Sion Norton

Yfory

Yn y dyfodol fe hoffwn fod yn ganwr pop a chanu ym mhob gwlad yn y byd a phob planed yn y bydysawd enfawr oherwydd gallaf ennill llawer o arian a bod yn boblogaidd ym mhob man.

   Gyda'r arian fe hoffwn brynu roced glas, sgleiniog. Hoffwn yrru'r roced i bob twll a chornel yn y gofod.  Hefyd, fe hoffwn brynu plasty enfawr gyda'r arian. Bydd ganddo bwll nofio, casino, cae pêl droed, canolfan bowlio deg cynnes a phumdeg ystafell wely ar gyfer plant digartref a bydd y plasty yn gallu symud i wledydd tramor eraill mewn dwy eiliad.

   Yn ysgolion y dyfodol dwi'n credu bydd robotiaid metal yn rhoi addysg i'r plant. Bydd gan y robotiaid ddarn o ymennydd person yn eu pennau, felly bydd y robotiaid yn gwybod yn union beth i ddysgu i 'w disgyblion. Dwi n credu bydd y plant yn gwneud eu gwaith ar gyfrifiaduron pen glin. Bydd bws sy'n hedfan yn mynd â'r disgyblion i'r ysgol. Ambell waith bydd y plant yn mynd ar dripiau ysgol i 'r lleuad, planed Mawrth, planed Sadwrn a phlaned Iau. Pan fydden nhw yna bydden nhw yn cwrdd a'r bobol bach gwyrdd a dysgu mwy am y lle.

   Pan fydda i yn hþn fe hoffwn gael fy ngwneud yn gymeriad cartwn doniol ar y rhaglen deledu Simpsons oherwydd mae'n fy hoff rhaglen deledu. Fe hoffwn weld mwy o blant yn actio ar y teledu felly bydd eu teuluoedd yn gallu cael mwy o arian i brynu bwyd a dillad.

   Yn y dyfodol fe hoffwn weld stop ar greulondeb i anifeiliaid.Yn ystod y mileniwm newydd rydw i'n gobeithio gweld mwy o leoedd cyfforddus i anifeiliaid di- gartref fel yr RSPCA yr NCDL a'r Cat's Protection League.

   O hyn ymlaen ni hoffwn weld pobl yn ysmygu na chymryd cyffuriau drwg oherwydd mae'r tybaco yn y sigarets yn gallu achosi cancr ar yr ysgyfaint ac mae'r cyffuriau yn gallu gwneud i bobl sy'n eu cymryd nhw wneud pethau gwael.

   Dwi'n credu rhywbryd bydd rhywun yn creu rhywbeth i newid y tywydd felly un munud bydd hi'n heulog a'r llall bydd hi'n bwrw eira. Efallai na fydd hi yn bwrw glaw yn yr haf eto ym Mhrydain.

   Fe hoffwn weld heddwch drwy'r byd yn ystod y mileniwm newydd hwn. Ni hoffwn weld pobl ddigartref ar y strydoedd o hyn ymlaen chwaith.

   Pan fyddaf yn hþn, rydw i'n gobeithio y byddaf yn gweld fy ffrindiau gorau sef Peppi, Elinor, Natalie, Bethan, Tara, Jamila, Lowrie, Caryn a Dana.

   Yn ystod y mileniwm ni hoffwn weld llygredd yn y byd, oherwydd ar hyn o bryd mae petrol drewllyd yn llygru'r byd felly hoffwn weld mwy o bobl yn mynd ar drenau.

   Ni hoffwn weld pobl yn torri coed gwerthfawr i lawr oherwydd bydd dim ocsigen ar ôl yn y byd ac ni fydd cynefin i anifeiliaid gwyllt fel gwiwerod.

   Dwi'n gobeithio yn ystod y mileniwm hwn bydd mwy o ysgolion Cymraeg yn cael eu hadeiladu yng Nghymru felly bydd mwy o blant yn gallu siarad Cymraeg.

   Yn y dyfodol dwi'n credu bydd pobl yn gwisgo dillad sy'n llawer gwahanol i'n dillad ni heddiw. Efallai bydd rhywun yn gwneud sgert las a phan rydych yn gwasgu botwm bydd swigod yn hedfan i bobman. Neu efallai bydd rhywun yn creu cap a phan rydych yn chwifio o flaen y cap byddech yn hedfan yn yr awyr.

   Dwi'n gobeithio yn ystod y mileniwm bydd fy hoff gylchgrawn MIZZ yn dal i fod yn y siopau.

   Fe hoffwn fyw tan rydw i'n gant a deg neu'n hþn os yn bosibl a thorri'r record. Pan fydda i wedi marw hoffwn gael fy arch ar y lleuad!

   Rydw i'n gobeithio y bydd fy nymuniadau i gyd yn dod yn wir rhywbryd yn ystod y mileniwm yma.

Mair Roberts

Ysgol Gymraeg Llantrisant

Gaeaf - Matthew Truelove

Matthew Truelove

10

CYSTADLEUAETH GÐYL DDEWI

Tafod Elái

Tudalen Nesaf >