 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
TONTEG A PHENTRE'R EGLWYS
Gohebydd Lleol: Helen Jones
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Steddfod Gylch Llongyfarchiadau i blant yr ardal a fu'n llwyddiannus yn yr Eisteddfod Gylch yn Llanhari. Daeth Manon Humphreys yn gyntaf ar yr unawd piano a'r adrodd dan 12, Ashley Fitzgerald, 1af ar yr unawd dan 12; Manon Humphreys a Menna Davies, 1af ar y ddeuawd gydag Ashley Fitzgerald a Carly Jones yn ail; Bethan Jones, 1af ar yr unawd dan 8 gyda Rebecca Outing yn drydydd; Jessica Davies, 1af ar y dawnsio disgo a Lowri Hughes yn drydydd ar yr unawd dan 10. Daeth côr Gartholwg a'r parti deulais yn gyntaf hefyd a'r parti llefaru yn ail. Pob lwc i'r rhai a aeth ymlaen i'r Sir.
Ysgol Feithrin Pentre'r Eglwys Pob dymuniad da i Barbara Davies ar ei hymddeoliad (cynnar), a diolch yn fawr am ei gwasanaeth cydwybodol fel athrawes yr Ysgol Feithrin am dros 20 mlynedd. Bu'n gofalu am lawer iawn o blant bach yr ardal dros y blynyddoedd gydag amynedd a charedigrwydd. Cynhelir noson ffarwelio iddi yn y Farmers Arms ar yr 11eg o Ebrill. Croeso i bawb - ffoniwch Tina Eprille 208237.
Arholiad Cerddoriaeth Llongyfarchiadau i Saran Johnson, Brookdale Court, sydd wedi pasio Gradd 5 Piano gyda chlod.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Priodwyd Nia Jones a John Murphy yn Eglwys Gatholig All Hallows, Meisgyn ym mis Tachwedd llynedd. Ail ferch Chris a Colin Jones - cyn berchnogion Fferyllfa Tonteg , a chefnogwyr diflino achosion dros Addysg Gymraeg - ydy Nia ac mae John yn fab i Dr a Mrs Donal Murphy, Wigan.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Gweithgareddau'r Urdd Bu Mis Mawrth yn gyfnod prysur eto eleni i aelodau'r Urdd. Llongyfarchiadau cynnes i'r holl blant fu'n llwyddiannus yn Eisteddfod Gylch yr Urdd a gynhaliwyd yn Ysgol Gyfun Llanhari. Llwyddwyd i sicrhau wyth safle cyntaf a phedwar ail safle. Edrychir ymlaen at yr Eisteddfod Sir gyda brwdfrydedd, ac os parheir y llwyddiant - Ymlaen i Fro Conwy! Llongyfarchiadau hefyd i'r plant fu'n llwyddiannus yn y cystadlaethau Crefft, a gwerthfawrogir ymdrechion a brwdfrydedd y bechgyn fu'n cystadlu yn y twrnament rygbi saith bob ochr, yn Llanharan. Priodas Gan na fydd cyfle eto drwy'r Tafod cyn gwyliau'r Pasg, manteisir ar y cyfle i ddymuno'n dda iawn i Helen Davies, athrawes y plant o oedran Derbyn a Blwyddyn 1, ar ei phriodas â Paul Bode, ym Mhencader, ar ddydd Sadwrn -
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ebrill 22ain. Mae Helen yn aelod ffyddlon a gweithgar o'r gweithlu yng Ngarth Olwg. Pob bendith a dymuniad da i'r ddau.
Cyfnod Mamolaeth Pleser mawr yw estyn croeso i Sian Hale yn ôl atom i Garth Olwg - fe fydd Sian yn llenwi'r bwlch yn ystod absenoldeb mamolaeth Rhian Widgery - athrawes plant Blwyddyn 1/2.
"Garth Olwg Newydd" Pleser mawr yw deall am apwyntiad Mr Mike Fisher, fel arweinydd y gwaith, ar ran Awdurdod Addysg Rhondda Cynon Taf, o wireddu'r Cynllun "P.F.I" - sef sicrhau adeiladau newydd i Gartholwg ac i Rydfelen erbyn 2003/2004. Deallir fod Mr Fisher newydd gwblhau cynllun "P.F.I" llwyddiannus iawn yn Sir Benfro, ac orherwydd, teimlir yn obeithiol y cawn brofi yr un llwyddiant yn hanes addysg ddwyieithog yn Rhondda Cynon Taf.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|