Parti Mwyaf

Erioed

Bydd penwythnos cyntaf Gorffennaf yn llawn gweithgareddau a digwyddiadau ym Mhontypridd. Mae Parti Ponty yn cychwyn  prynhawn dydd Gwener, 30 Mehefin, gyda  Gig enfawr i bobl ifanc yn y parc. Nos Wener mae drama gerdd yn Neuadd Dowlais, Llanilltud Faerdref a Band Siôn Williams yng Nghlwb y Bont.

   Dydd Sadwrn, 1af Gorffennaf,  bydd y bwrlwm ym Mharc Ynysangharad yn dechrau am 10 y

Mae datblygiadau pwysig a chyffrous yn cymeryd lle ar hyn o bryd i baratoi ar gyfer adeilad newydd i Ysgol Gyfun Rhydfelen.

   Mewn cyfarfod ym mis Mai yn Ysgol Garth Olwg rhoddwyd gwybodaeth i gynulleidfa wahoddedig am y cynlluniau i adeiladu ysgol gyfun Gymraeg newydd ym Mhentre'r Eglwys.

   Penderfynodd Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf ar Ebrill 19 mai'r safle orau ar gyfer ysgol gyfun Gymraeg i ardal Pontypridd yw'r safle ym Mhentre'r Eglwys ac mae'r gwaith o gynllunio'r ysgol newydd o dan Gynllun Ariannu Preifat y llywodraeth wedi cychwyn. Apwyntiwyd Mr Mike Fisher yn Rheolwr y Cyfanwaith, mae ganddo brofiad llwyddiannus o gwblhau cynllun tebyg yn Sir Benfro.

   Bydd yr ysgol newydd ar yr un safle ag Ysgol Garth Olwg, yn ôl y rhaglen a gyhoeddwyd gan Mr Fisher bydd yr adeiladu yn cychwyn yn Hydref 2002 ac yn gorffen erbyn y Pasg 2004.

Ysgol Gyfun Newydd

Canolfan Fasnach Newydd

Mae Siambr Fasnach Caerdydd wedi agor swyddfa yn Rhondda Cynon Taf  i roi cymorth a chefnogi y gymuned busnes yn yr ardal. Mae'r swyddfa yn adeilad TEEP ar Ystâd Ddiwydiannol Trefforest ac mae'n rhan o rwydwaith Cyswllt Busnes ac yn cydweithio gyda Uned Datblygu Economaidd y Cyngor Sir.  Apwyntiwyd Keith Waters yn rheolwr y swyddfa. Bu'n Reolwr Allforio ac yna yn Rheolwr Datblygu Busnes gyda chwmni KV Rollers.

  Mae'r Siambr yn cydweithio gyda'i bartneriaid i gynhyrchu cylchlythyr syml i roi gwybodaeth i fusnes am y gronfa Amcan 1. Mae'n bosib y bydd cwmnïau sy'n disgwyl arian i lifo i'w cynorthwyo yn cael eu siomi oherwydd y disgwyl yw y daw y rhan fwyaf o gymorth i fusnes drwy hyfforddiant a chefnogaeth datblygu.

PARTI

PONTY


Dydd Sadwrn, Gorffennaf 1af, 2000

10 am - 5 pm

Parc Ynysangharad, Pontypridd


bore gyda dewis o weithgareddau a llwyfannau. Nos Sadwrn mae Gig Urddaholics yng Nglwb y Great Western, Trehopcyn a bydd y Strymdingers yng Nglwb y Bont.

   Cofiwch gefnogi'r Ðyl a'r hwyl.

< Dewisiadau

Tudalen Nesaf >