ENNILL GWOBR GENEDLAETHOL


Ddydd Gwener, Gorffennaf 7, mae prifathro Ysgol Gwaelod-y-Garth, Gerwyn Williams, a dau blentyn yn teithio i'r Llyfrgell Genedlaethol,  Aberystwyth i dderbyn gwobr genedlaethol.

   Mae'r ysgol wedi ennill Gwobr Pwyllgor Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig a chafodd murlun 2000 yr ysgol ei ddisgrifio fel "prosiect treftadaeth ardderchog".

   Chwe medr o hyd a 1.5 medr o uchder yw'r murlun sy'n olrhain hanes pentre' Gwaelod-y-Garth o'r cyfnod cynnar i'r flwyddyn 2000. Defnyddiodd y plant becynnau Gwybodaeth Hanes Lleol er mwyn dod o hyd i wybodaeth a lluniau perthnasol.

   Chwaraeodd Clwb Celf yr ysgol ran allweddol a'r gobaith erbyn diwedd y flwyddyn yw y bydd pob disgybl wedi peintio ar y murlun. Cafodd uwchdaflunydd ei ddefnyddio wrth greu'r lluniau.

   "Daeth y syniad pan oedd y plant yn casglu deunydd ar gyfer eu Ffeiliau Ffaith Hanes Lleol," meddai Gerwyn Williams. "Roedd y ffeiliau'n cynnwys gwybodaeth am dair agwedd, hynny yw bywyd pob-dydd, cymeriadau, ac adeiladau a mannau nodedig.

   "Y plant benderfynodd pa luniau oedd yn mynd ar y murlun ac wrth drafod hyn, roedden nhw'n dysgu mwy am hanes lleol y pentre'.

   Mae'r murlun yn cyfeirio at Gapel Bethlehem, Gwaith Brics Pentyrch, Pont Sion Phillip, a chymeriadau fel y llenor a'r gweinidog R G Berry.

   "Mae pobol leol wedi cael eu holi ac mae rhai o'r plant yn falch iawn fod y murlun yn cynnwys eu rhieni neu teulu.

   "Roedd yn gyfle i'r plant arddangos eu sgiliau celf a dysgu mwy am hanes eu pentre' yr un pryd."

Murlun 2000 Ysgol Gwaelod-y-Garth

Parti Ponty 2000 - Llwyddiant Ysgubol

Er gwaetha'r glaw yn gynnar bore Sadwrn cyntaf mis Gorffennaf cododd yr haul a cafwyd diwrnod hyfryd ar gyfer y Parti Ponty mwyaf a fu erioed ar Barc Ynysangharad. Roedd yn ddiwrnod arbennig i'r miloedd a ddaeth  i fwynhau adloniant Cymraeg ar ei orau.

   Yn ogystal, ar y prynhawn Gwener, daeth dros mil o ddisgyblion ysgolion cyfun yr ardal i gig arbennig yn y Parc a drefnwyd gan yr Urdd a Radio Cymru.

    Llongyfarchiadau i bawb a fu'n cymeryd rhan yn y Parti a diolch arbennig i Steffan Webb am lwyddo i gael cymaint o bobol i gydweithredu a threfnu parti bythgofiadwy.

< Nol i'r Dewisiadau

Tudalen Nesaf >