|
Grehan, Rhodri Harries, Gavin Ashcroft, Marc Lloyd Jones, Beuno Hughes, Wyn Thomas, Huw Wade, Gwilym Thomas, Mike Wade, Rowland George, Gerwyn Caffrey, Rhys Dafis, Ifan Roberts, Maen nhw wedi cael blwyddyn brysur, rhwng cystadlu a chynnal nosweithiau ar hyd a lled De Cymru - o Gasnewydd i Abergwaun. Pan fydd y côr yn ymarfer ac yn cynnal nosweithiau mae nhw'n ddiolchgar iawn am gymorth a chefnogaeth eu cyfeilyddion lleol - y ddwy delynores, Lowri Ffrancon a Bethan Roberts. Yn rhai o'u cyngherddau mae nhw hefyd yn cael help Patric Stephens wrth y piano. Cliff Hewitt, 35 Penywaun, Efail Isaf , (CF38 1AY) yw'r Trysorydd a Geraint Wyn Jones, Rhyd y Grug, 13 Y Padog, Pentre'r Eglwys, Pontypridd (CF38 1TL) yw'r ysgrifennydd. Os yw eich cymdeithas am drefnu orig yn eu rhaglen aeaf, bachwch y bois cyn i'w ffioedd dreblu! |
|
Ennill ym mro Llanelli! Buddugoliaeth Parti'r Efail Buddugwyr y gystadleuaeth i bartion Cerdd Dant ym Mhrifwyl Llanelli oedd Parti'r Efail - criw o feibion ardal y Tafod dan hyfforddiant Menna Thomas, sy'n ymarfer yn Efail Isaf. Ydyn, maen nhw wedi ei gwneud hi! Ar ol dod yn drydydd ac yna'n ail mewn prifwyliau blaenorol, eleni daeth haeddiant i'w rhan pan ddyfarnwyd cwpan Coffa Llyfni Huws iddyn nhw am eu cyflwyniad o ddwy gerdd - "Yr Hebog" (Robert Powell) a "Pan glywaf gân y clychau" Dafydd Iwan. Parti'r Gromlech, enillwyr blaenorol o fro'r Preseli, ddaeth yn ail a Meibion Llywarch o ardal y Bala yn drydydd. Mae'r parti'n bumlwydd oed eleni ac wedi cystadlu'n gyson yn y Brifwyl a'r Ðyl Cerdd Dant. Nhw enillodd yn yr Ðyl Gerdd Dant, Yr Wyddgrug, ddwy flynedd yn ôl ac mae nhw'n bwriadu cystadlu eto eleni pan fydd yr Ðyl ym Mangor ym mis Tachwedd. Menna Thomas, sydd bellach yn byw yn Efail Isaf, sy'n gosod iddyn nhw ac yn hyfforddi'r parti. Mae'r fuddugoliaeth yn un gwobr ychwanegol at y myrdd mae hi wedi eu hennill, fel unawdydd ac fel hyfforddwraig corau a phartion - fel athrawes yn ysgol Rhydfelen, fel cyn-arweinydd Merched y Garth ac wrth gwrs hyfforddwraig Parti'r Efail. Yr aelodau yw: Cliff Hewitt, Geraint Wyn Jones, Gwyn Hughes Jones, Emlyn Penny Jones, Gareth Jones, Aled Thomas, Danny |
|
Llongyfarchiadau hefyd i bawb arall o'r ardal a gymerodd ran yn Eisteddfod lwyddiannus Llanelli. Roedd yn braf gweld dau o gorau'r ardal - Côr Godre'r Garth a Chôr Bethlehem Gwaelod y Garth ar y llwyfan a hefyd roedd Dawnswyr Nantgarw unwaith eto yn dangos eu harbenigedd ym maes Dawnsio Gwerin a Stepio gan ennill nifer o gystadlaethau. |
|
Criw Parti'r Efail yn llongyfarch Menna Thomas yr Arweinydd |
|
Dydd Owain Glyndwr 16 Medi 1400 - 2000 |
|
|
|
£2.50 AM Y FLWYDDYN |
|
tafod elái |
|
ARCHEBWCH EICH COPI O |


