ANFODLON CAEL YSGOL GYMRAEG


Pryderu am y drafnidiaeth ychwanegol ar ffordd brysur dros ben oedd y prif reswm dros wrthwynebiad rhai i ysgol gyfun newydd ar safle Garth Olwg, Pentre'r Eglwys.
   Roedd Neuadd Carnegie, Pentre'r Eglwys yn orlawn ar gyfer y cyfarfod cyhoeddus yng nghanol mis Medi ar gyfer ymgynghoriad gan Gyngor Sir Rhondda Cynon Taf a rhoddwyd cyfle i gefnogwyr a gwrthwynebwyr y cynllun ddweud eu barn. Cadeiriwyd y cyfarfod yn deg a chadarn gan Gyfarwyddwr Addysg y Sir, Dewi Jones, a chafwyd atebion i dros 30 o gwestiynau gan bobl leol a fu'n gweld y cynlluniau a'r dogfennau dros y deuddydd blaenorol.
   Roedd rhai yn anfodlon fod offer cyfieithu yn cael ei ddefnyddio i alluogi pobl i siarad yn Gymraeg neu Saesneg. Ond y prif gwyn oedd nad oes sicrwydd y bydd Ffordd Osgoi Pentre'r Eglwys yn barod erbyn i'r ysgol newydd agor yn 2004.
    Fe ddangoswyd cefnogaeth i'r cynllun gan nifer o'r neuadd yn arbennig gan un o famau ifanc yr ardal oedd yn gofyn pam fod rhai pobol yn anfodlon i ddarparu cyfleusterau gwell ar gyfer addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y cynllun newydd yn cynnwys ysgolion meithrin Cymraeg a Saesneg yn ogystal ag adeiladau newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Garth Olwg ac Ysgol Gyfun Rhydfelen. Mae'n gynllun cyffrous fydd yn dod â nifer o fanteision i'r ardal ac roedd presenoldeb gymaint o rieni Garth Olwg yn y cyfarfod yn dangos cefnogaeth i gynlluniau'r awdurdod.

Sgwadnewyddu S4C gyda chweched dosbarth Ysgol Rhydfelen.
Mae gwybodaeth am lwyddiant academaidd yr ysgol ar dudalen 9.

Pymtheng Mlynedd Tafod Elái


Ydych chi'n cofio'r penawdau cyntaf yn rhifyn Hydref 1985? Wel mae atgof o'r papur hwnnw ar dudalen 18.
   Yn rhyfeddol mae'r papur bro yn parhau yn llawn o fywyd a datblygiad yr ardal. Mae'n dibynnu ar lu o ohebwyr trylwyr a chyson a llawer o ddosbarthwyr sy'n sicrhau ei fod yn cyrraedd eich drws.
   Ond fel pob papur sy'n datblygu mae angen syniadau newydd a chefnogaeth ymarferol. Os allwch helpu mewn unrhyw ffordd cysylltwch â mi: Penri Williams 029 20890040.   

FFORWM CYMRAEG
RHONDDA CYNON TAF
ARIAN AMCAN 1
Hydref 11 2pm
Swyddfeydd Interlink, Pontypridd

Cyfarfod Blynyddol
MENTER
IAITH
7pm Nos Iau 12fed Hydref 2000
Canolfan Gelf Y Miwni, Pontypridd

Siaradwr gwadd
Robin Gwyn