
|
|
|
DIM PARCIO YN Y PARC Dyna yw ymateb trigolion Pontypridd i'r cais cynllunio i ddatblygu canol y dref. Mae Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf wedi derbyn deiseb gyda dros 9000 o enwau ar ôl newid Cynllun Lleol yr ardal i gynnwys maes parcio 450 car ar ran o Barc Ynysangharad. Y bwriad yw adeiladu maes parcio ar safle y Ganolfan Dydd presennol ar ochr yr afon. Mae hyn yn rhan o strategaeth i adfywio canol tref Pontypridd a denu siopwyr newydd. Yn ôl y cynllunwyr dim ond effaith bach iawn fydd hyn yn cael ar y Parc. Ond mae'r parc yn dir cysegredig i lawer iawn o drigolion y dref ac roedd colli 10% ohono wrth adeiladu y ffordd ddeuol A470 newydd 30 mlynedd yn ôl yn gam yn rhy bell. Mae Parc Ynysangharad yn un o atyniadau prysuraf y cymoedd gyda ymwelwyr yn dod i fwynhau y pwll nofio, tenis a chwaraeon eraill yn ogystal â bandiau, y blodau a'r gofeb i awduron ein hanthem gendlaethol. |


|
Clawr CD newydd Cynllun Chwarae Menter Iaith |
|
YN ÔL I'R COLEG... YMLAEN I'R DYFODOL O'r 1af o Dachwedd bydd modd i wylwyr S4C Digidol fwynhau hyd at 15 awr yr wythnos o raglenni addysg a hyfforddiant, diolch i Goleg Digidol Cymru. Ar y diwrnod cyntaf bydd modd gweld pytiau o nifer o gyfresi gwahanol fel rhagflas o'r hyn sydd i ddod - popeth o addysg i iechyd a'r Cynulliad. Os na fyddwch erbyn y Nadolig yn un o'r 40% o boblogaeth Cymru a fydd yn gwylio teledu digidol dros yr Ðyl, bydd modd i chi wylio'r rhaglenni yn un o'r canolfannau gwylio a fydd yn ymddangos drwy Gymru dros y |
|
gaeaf. Bydd modd mynd at rai o'r gwasanaethau hefyd drwy PC neu drwy un o'r blychau arbennig sy'n caniatáu i chi fynd at y we trwy deledu analog arferol. Bydd y gwasanaeth, ar y dechrau, yn cynnwys rhaglenni teledu a phecynnau wrth-gefn a gwefan ryngweithiol - www.dysgu.cd. Mae llawer o'r rhaglenni a'r cynlluniau mwya' cyffrous wedi'u cynhyrchu gan golegau Cymru a bydd modd i wylwyr symud ymlaen at gyrsiau cyflawn a gynigir ganddyn nhw a cholegau eraill yn lleol drwy'r we. Bydd y rhan fwyaf o'r rhaglenni'n ddwyieithog. Bydd modd eu gwylio naill ai yn y Gymraeg neu yn Saesneg trwy ddewis trac sain. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y rhaglenni neu'r gwasanaeth yn gyffredinol, neu os hoffech gofrestru'n ddi-dal â Choleg Digidol Cymru, defnyddiwch y llinell ffôn bwrpasol - 029 20 300 800. Mae cofrestru'n bwysig iawn os ydych chi am dderbyn gwybodaeth am raglenni penodol neu gymryd rhan mewn sesiynau rhyngweithiol. |
|
COLEG DIGIDOL |


