Nadolig Llawen

a

Blwyddyn Newydd Dda

TEULUOEDD YN OFNI TIR LITHRIAD   


Oherwydd tir lithriad ar ochr Mynydd y Garth bu rhaid symud tri theulu o'u cartrefi gyda phrin awr o rybudd ym mis Tachwedd. Hefyd bu rhaid cau ffordd y mynydd o Waelod y Garth i Bentyrch a chafodd cyflenwadau dðr a nwy eu diffodd.


Dywedodd Nigel Hill, aelod o un o'r teuluoedd, fod y mynydd wedi symud troedfedd rhwng Tachwedd 18 a 19.


"Codon ni wal rhwystro oedd yn costio £10,000 yn yr ardd ond erbyn hyn mae'n cyffwrdd â chefn y tþ," meddai.


Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor taw nod y profion oedd darganfod pa mor sefydlog oedd y mynydd. Roedd y mynydd wedi bod yn symud ers dwy flynedd, meddai, ond roedd y sefyllfa'n waeth o lawer ers canol Tachwedd oherwydd y glaw trwm.


Roedd y trigolion wedi sylwi fod y lôn i un o'r tai yn cracio a lawnt tþ arall wedi suddo tua 12 modfedd yn ystod y flwyddyn diwethaf ond dros gyfnod o dri diwrnod ymddangosodd craciau a suddodd y ffordd i fyny'r mynydd gan achosi i'r tir fygwth dymchwel un o'r tai.


Gyda'r glaw trwm diweddar mae'r bygythiad o'r mynydd yn achosi pryder i holl drigolion pentref Gwaelod y Garth. Gobeithiwn y bydd yr awdurdodau yn rhoi'r cymorth priodol i ail-sefydlogi'r mynydd.

ARIAN ARLEIN YN CREU 400 O SWYDDI 


Mae cwmni Cyllid Arlein yn buddsoddi £3m yn ne Cymru, gan greu 400 o swyddi newydd.


Bydd y cwmni'n sefydlu canolfan prosesu benthyciadau ym Mharc Nantgarw yn Nhrefforest a'r gobaith yw recriwtio'r staff i gyd erbyn Mai 2001.


Deellir fod y cwmni wedi dewis y safle ar ôl trafodaethau hir gyda'r Awdurdod Datblygu ac mae hwn yn hwb i'r ardal, yn enwedig o gofio'r swyddi a gollwyd yn ystod y misoedd diwetha yn Sony, Pen-y-bont, a Panasonic ym Mhentwyn,

GÐYL DDRAMA


Diolch i gefnogaeth rhai o selogion yr Wþl fe lwyddwyd i gael dwy noson o ddifyrrwch a hwyl eto eleni. Roedd y beirniad, Sioned Mair, wedi ei phlesio gan safon uchel y cynhyrchiadau ac yn arbennig cyfraniadau pobl ifanc ysgolion Glantaf a Llanhari.

   Diolch i Colin Williams a'r criw fu yn ei helpu am roi cyfle a llwyfan i ddoniau'r ardal.

Elin Morse yn derbyn Tlws yr Actor Gorau oddi wrth Sioned Mair, y beirniad.

Tudalen Nesaf >

< I'r Dewisiadau