|
150 AR DAITH I ALTON TOWERS Aeth dros 150 o ddisgyblion blynyddoedd 9&10 ar drip CIC i Alton Towers ar 25 Hydref. Daeth y bobl ifanc o bob cwr o'r cwm gan gynnwys disgyblion Cymer, Llanhari, Rhydywaun a Rhydfelen. Roedd yn drip llwyddiannus iawn ac roeddynt wedi mwynhau yn fawr iawn. Y Nemesis ar Oblivion mae'n debyg oedd y pethau mwyaf poblogaidd yna ac aeth rhai arnynt dros ddwsin o weithiau. Er gwaetha gadael De Cymru am saith o 'r gloch yn y bore roedd yn werth teithio i fyny'r M5 i fynychu un o'r parciau mwyaf poblogaidd ym Mhrydain. CLWB IEUENCTID AIL IAITH TREORCI Agorwyd clwb ieuenctid ail iaith yn Nhreorci yn ystod mis Tachwedd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 7&8. Yn barod, mae'r fenter yn llwyddiannus gyda dros 15 yn mynychu yn gyson. Mae'r clwb yn cael ei gynnal yn Ysgol Treorci pob Nos Fercher rhwng 4pm-5.30pm. Andrew Morrisey ac Edwyn Parry yw arweinwyr y clwb. Yn ogystal â hynny, mae yna griw o fyfyrwyr chweched dosbarth yr ysgol sydd yn astudio'r Gymraeg fel Lefel A yn gwirfoddoli pob wythnos. Fe fydd y clwb yn mynd ar drip i'r Bowlplex ym mis Rhagfyr. CYBER CAFF PONTYPRIDD Mae'r fenter yma wedi bod yn hynod o lwyddiannus gan bod dros 70 wedi cofrestru ar lyfrau'r Cyber Caff a dros 30 ar gyfartaledd yn mynychu'r Cyber Caff yn wythnosol. Mae'r clwb yn cwrdd pob Nos Iau yn y YMCA, Pontypridd rhwng 7pm-9pm. Pris mynediad yw 50c yn unig. Am fwy o fanylion am weithgareddau CIC cysylltwch a Rhodri Francis ar 01443 687284. |
|
Roedd y 7fed o Hydref, 2000 yn ddydd arbennig. Roedd Cymru'n chwarae Norwy yn Stadiwm y Mileniwm. Roedd y ddau dim wedi bod yn ymarfer yn galed ar gyfer y gêm. Aeth dros 50,000 o bobl i weld gêm gyffrous gyda llawer o chwaraewyr o'r Uwch Gynghrair Premier, fel Steffan Iversen, Tore Andre Flo, Ole Gunnar Solskjaer, Oyvind Leonhardsen, Ronnie Johnsen. Ond doedd neb yn y dorf yn gallu anghofio Ryan Giggs. Mae wedi bod yn chwarae'n arbennig dros Manchester Utd a gobeithiai'r dorf allu gweld un o'i berfformiadau gwych. Roedd y tywydd yn dda a doedd dim byd ar ôl i wneud, dim ond aros i'r chwaraewyr ymddangos. Y capteiniaid oedd Henning Berg, i Norwy a Gary Speed i Gymru. Cofiwch mae'r ddau gapten wedi cwrdd a'i gilydd mwy nag un waith, mae'r ddau yn chwarae i dimau yn yr Uwch Gynghrair. Pan ddaeth y ddau dîm allan i'r cae aeth y dorf yn wyllt. Roedd tactegau Norwy yn wahanol i'r arfer. Dim ond Solskjaer oedd ymosodwr pennaf Norwy. Chwaraeodd Iversen ganol cae. Dechreuodd Norwy y gêm. Dechreuodd Cymru'n dda. Cafodd Ryan Giggs rhediad ac aeth tu fewn i Ronnie Johnsen a saethodd ond aeth y bêl tu fas i'r postyn o drwch blewyn. Roedd Ryan Giggs ar dân. Cafodd Norwy ddim llawer o gyfle i fynd i hanner Cymru o gwbl. Ond cafodd Ryan Giggs rhediad arall ac roedd John Hartson yn gofyn am y bel felly croesodd Giggs y bêl i sgwar y gôl-geidwad a pheniodd y bêl i gefn y rhwyd, ond dim gôl. Roedd John yn cam sefyll. Felly siom i'r dorf. Yna fe chwibanodd y dyfarnwr ac roedd yn hanner amser. Rwy'n credu bod Mark Hughes yn hapus gyda'i ddynion. Roedd Norwy yn lwcus iawn i fod 0 - 0 ar yr hanner Fe gafodd Paul Jones, gôl-geidwad Cymru hanner da. Yn sydyn daeth y chwaraewyr nôl allan i'r cae am yr ail hanner. Eto fe ddechreuodd Cymru'r ai1 hanner yn dda ac fe aeth Ryan Giggs ar rediad gwych eto a phasiodd i Gary Speed. Roedd |
|
3 |
|
Nathan Blake yn aros yn y sgwâr a chroesodd y bêl i'r sgwâr a sgoriodd Nathan Blake gyda'i ben. Aeth y dorf yn wyllt. Yr unig beth oedd gôl-geidwad Norwy yn gallu ei wneud oedd crafu ei ben a gweld Cymru yn dathlu'r gôl. Felly 1 - 0 oedd y sgôr. Yn syth ar ôl y gôl daeth Tore Andre Flo i'r cae ac aeth Steffan Iversen i ffwrdd. Roedd yna lawer o gyfleoedd ond doedd Cymru ddim gallu sgorio. Fe ddaeth eilydd arall i'r cae a hwnnw oedd Helstad a daeth Bakke bant o'r cae. Dim ond 10 munud oedd ar ôl, a gwnaeth yr eilydd, Helstad rhediad arbennig. Saethodd ond fe safiodd Paul Jones y bêl. Ond, roedd Helstad am saethu eto, bwrodd y postyn ond serch hynny sgoriodd gôl i Norwy. Fe aeth y dorf mor dawel â'r bedd. Yna doedd dim llawer o amser ar ôl a daeth Iwan Roberts i'r cae yn lle John Hartson. Fe gafodd e gêm wych, ac roedd pawb wedi canmol ei berfformiad. Chwibanodd y dyfarnwr ac 1 - 1 oedd y sgôr terfynol. Fe gafodd Cymru gêm arbennig a'r perfformiad yna oedd y perfformiad gorau i Mark Hughes ei weld gan Cymru. Aled Wilcox. |

|
Cynllun Ieuenctid y Cymoedd |
|
Cymru 1 Norwy 1 |
