|
Project Glyndwr
Dyna enw'r project sy'n mynd i sicrhau ysgol newydd i Rydfelen a Garth Olwg yn 2004. Mae arwyddocâd arbennig, wrth gwrs, yn yr enw! Ar 10 Ionawr cynhaliwyd Diwrnod Agored Project Glyndðr - roedd deugain o gwmnïau mawr wedi dod ynghyd i ddatgan diddordeb. Anhygoel! Fydd dim prinder ymgeiswyr am y gwaith! Ar 2 Chwefror cynhelir cyfarfod cyhoeddus yng Nghanolfan Chwaraeon Llanilltud Faerdre (agor am 6.00, dechrau am 6.30) i ymgynghori â'r gymuned leol ynglþn â chaniatad cynllunio. (Cyfarfodydd rhannu gwybodaeth am 2.30 a 6.30 ar 1 Chwefror a 2.30 ar 2 Chwefror.) Mae tipyn o lythyru wedi bod yn y papurau lleol ynglþn â lleoliad y project hwn ym Mhentre'r Eglwys. Pryderu mae pobl am effaith y datblygiad newydd ar y traffig lleol - sydd ar hyn o bryd yn ddigon enbyd, mae'n rhaid cyfaddef. Pwysig iawn, felly, oedd y datganiad gan y Cynulliad Cenedlaethol yr wythnos ddiwethaf bod arian ar gyfer ffordd osgoi Pentref Eglwys wedi ei gytuno. Gyda'r broblem yma wedi ei dileu, efallai y gall y trigolion lleol yn awr edrych ymlaen at ddatblygiad a all ddod â bendithion mawr i'r ardal. Cawn gyfle eto, mae'n siwr, i fanylu ar yr adnoddau fydd ar gael, ond yr elfen bwysicaf i'w phwysleisio yw mai Ysgolion Cymunedol fydd y Rhydfelen a'r Garth Olwg newydd, gyda llawer o'u hadnoddau ar gael i aelodau'r gymuned gyda'r pwyslais ar "addysg gydol oes". Bydd hyn yn cynnwys Canolfan Celfyddydau ac Adnoddau Technoleg Gwybodaeth
|
|