< Nôl i'r dewisiadau

Tudalen Nesaf >

Mae'r Urdd yn gallu cadw ei gweithgareddau a'i llwyddiannau yn ddirgelwch i weddill y boblogaeth ond drwy lwc cyrhaeddais Ganolfan Hamdden Llantrisant i glywed canu, swn, hwyl a chwerthin yn llenwi'r neuadd fawr.
   Roedd Jambori yr Urdd yn ei anterth. Martyn Geraint a'r Band yn cael hwyl ar y llwyfan ac ymateb anhygoel gan dros 600 o blant yn y gynulleidfa. Weithiau, yng nghanol berw bywyd, mae angen gweiddi mas - a dyna oedd y plant yn cael cyfle i wneud y bore hwnnw cyn gwyliau hanner tymor Chwefror. Yn bwysicach na hynny roedd yr anogaeth a'r cyffro i gyd yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg.
   Mae'n amlwg fod na fwynhad mawr wedi bod ar ddysgu a chanu'r caneuon yn yr ysgol wrth ymyl y piano ond roedd cael eu canu gyda Martyn Geraint a band proffesiyniol o'r radd flaenaf yn wefr arbennig. Roedd drymiau Graham Land a gitar Myfyr Isaac yn  rhoi sglein ar berfformiad y plant ac o fewn eiliadau roedd pawb ar ei traed yn gweiddi a stompio i swn y gerddoriaeth.
   Os oedd na un neges yn dod o'r bore hwnnw, y neges oedd - mwynhau - enjoio. A dyna sy'n gwneud hi mor bwysig i roi cyfle i blant ac oedolion ddysgu a siarad Cymraeg. Mae'n rhoi dimensiwn ychwanegol i fywyd ac yn ein galluogi i fwynhau profiadau newydd a gwahanol. Ar Ddydd Gwyl Dewi (a phob dydd arall) ewch allan i fwynhau a mynnwch gael hwyl yn Gymraeg.

Menna Lewis yn derbyn gwobr Myfyriwr y Flwyddyn Cwrs Technoleg Gwybodaeth Coleg Pontypridd a Menter Iaith  oddi wrth John Walter Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg(gweler tudalen 9)

Y Plant yn Rhagori Unwaith Eto


Daeth cannoedd o gynhyrchiadau i Gystadleuaeth Gðyl Ddewi Tafod Elái ac mae'n bleser rhoi cyfle i ddangos peth o'r gwaith buddugol yn y rhifyn hwn.
   Diolch arbennig i athrawon yr holl ysgolion a gymerodd ran yn y gystadleuaeth eleni. Trwy roi trefn ar yr holl gynnyrch roeddent wedi gwneud y gwaith o ddosbarthu'r gwaith i'r beirniaid llawer yn haws.
   Fe roddwyd amserlen tyn iawn i'r beirniaid ymdrin â'r torreth o gynnyrch ac rydym yn ddyledus iawn iddynt am wneud y gwaith yn brydlon.
   Diolch i Betsi Griffiths am drefnu a llywio'r gystadleuaeth boblogaidd hon.

Y LLYS YN PENDERFYNU


Disgwylir gwrandawiad cyn diwedd mis Mawrth i benderfynu a oes hawl gan Gyngor Sir Rhondda Cynon Taf roi caniatad cynllunio ar gyfer ysgol gyfun newydd yng Ngarth Olwg, Pentre'r Eglwys.
   Rhoddwyd gwys ar y cyngor sir gan Gyngor Cymuned Llanilltud Faerdref i'w hatal rhag parhau gyda'r Cynllun Cyllido Preifat. Mae hyn yn dilyn cyfarfod cyhoeddus tanbaid a gynhaliwyd ar ddechrau mis Chwefror lle bu carfanau o blaid ac yn erbyn y cynllun yn dadlau eu hachos.

Tudalen Nesaf >