Tudalen Nesaf >

TONYREFAIL

Gohebydd Lleol: D.J. Davies

Ysgol Gymraeg Tonyrefail.
Mae Mr Marc Rees wedi ei apwyntio yn Brif Athro ar yr ysgol yn sgil penodiad y Brif Athrawes bresennol yn Benaeth Ysgol Gymraeg Llantrisant. Mae Mr Rees yn hannu o Flaenannerch yng Ngheredigion ag yn ddirprwy Brifathro yn Ysgol Gymraeg Castellau ar hyn o bryd.

Capel Y Ton
Ryw dair wythnos yn ôl cafodd Miss Nansi Lewis niwed i'w throed a da yw clywed ei bod yn gwella yn ara deg. Bu yn sefyll gyda'i chwaer ym Mhorthcawl a pherthnasau eraill ond mae wedi dychwelyd ir Ton erbyn hyn.
   Mae Mr Dilwyn Llewelyn, Mrs Cassie Entwhistle, Mrs May Edwards  cyn-aelodau Ainon cyn i'r drysau gau,  Mrs Fanw Williams gynt o Dylcha-wen a Mr Robert Pope cyn Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol cystal ag sydd i ddisgwyl yng Nghartref Gelliseren. Mae Mrs Gwennie John yn dal yn ysbyty Dewi Sant, a Mrs Mary Church, Mrs Mary Williams Llysyrefail a Mrs C. Buck Tynybryn y tair yn ei 90au ac yn dal yn weddol.

Bowlio Dan Do
Llongyfarchiadau mawr i  Michael Prosser ar ennill pencampwriaeth Cymru yn Bowlio Dan Do sengl yn Llanelli. Mae Michael wedi bod yn bowlio ers oedd  yn ifanc iawn ac wedi cael tipyn o lwyddiant. Bu yn dal pencampwriaeth ddwbl o'r blaen. Mae yn fab i Mr a Mrs D.Prosser, Parklands. Mae'r fam yn hannu o Dalacharn yn Sir Gaerfyrddin, cyfarfu'r ddau ar wyliau yn Blackpool.

Yn 101
Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers i mi ysgrifennu am benblwydd Mrs Sal Evans Tylcha -Wen yn gant oed  ac ar y 25ain o Chwefror bydd yn gant ag un. Mae yn dal yn syndod o dda ac yn fyw ei meddwl ag ysbryd. Mae yn cael y gofal gorau posib gan ei theulu a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae yn dal i fyw yn ei thþ ar ben ei hun ac fel brenhines. Treuliais orig fach yn ei chwmni yr wythnos ddiwethaf a chael llun ohoni. Pob bendith iddi a dymuniadau gorau.

Marwolaeth
Ar y 23ain o Ionawr daeth y newydd  trist am farwolaeth Mrs Charlotte Roberts Heol y Gilfach Tonyrefail. Mam un o'n aelodau ni yng Nghapel y Ton sef Mrs Myfanwy Hunt ai chymar John, sydd wedi edrych ar ei hol ers blynyddoedd, ac wedi rhoi'r gorau
posib iddi ar ei haelwyd. Mae iddi fab hefyd Dyfrig, sydd yn byw yn swydd Caergrawnt. Roedd Mrs Roberts yn un o deulu mawr a'r ola ohonynt, ag yn byw yn Gilfach Goch ac wedi ei chodi yn Eglwys Fedyddiedig Calfaria. Collodd ei gwr John rai blynyddoedd yn ôl. Roedd e'n un o deulu cerddorol ac aelodau ffyddlon yn Libanus Gilfach.
   Ar fore Dydd Llun y 29ain o Ionawr bu'r gwasanaeth angladdol yn y tþ ag ym Mynwent Y Tran Tonyrefail Y prif alarwyr oedd Myfanwy a John y ddwy ferch Dr. Sian a James a'r ddwy ferch Katie a Anna, Sioned a'i chymar John Ellis, a  theulu Dyfrig. Mr Bill Phillips  Calfaria Gilfach Goch oedd â gofal y gwasanaeth yn y tþ ag ar lan y bedd. Cydymdeimlad dwys â'r teulu.
   Mae Sioned  yn gantores broffesiynol ac mae wedi cael cyngerdd mawr yng Nghaer yn ddiweddar a bu ei thad a'i mam i fyny ar yr achlysur. Mae Sioned a John yn byw yn yr Wyddgrug.

Meithrin Thomastown.
Braf yw gweld fod yr ysgol feithrin yn mynd yn ei flaen o nerth i nerth

Mrs Sal Evans

o dan arweinyddiaeth Mrs Jan Richards. Mae cael gweld brwdfrydedd ei chynorthwywyr yn galondid - nid bach o waith yw cynnal menter fel hyn. Galwais i fewn yr wythnos ddiwethaf a chael ei bod o dan archwiliad. Bydd rhaid aros wythnos neu ddwy am ganlyniad a gobeithio cael newydd da.
   Mae un o'r staff sydd wedi bod yno ers wyth mlynedd yn gadael sef  Mrs Jane Griffiths. Mae wedi symud i Hengoed i fyw, a'r ffordd yn bell i deithio bob dydd. Pob hwyl a diolch iddi am ei gwasanaeth diflino.
   Mae Mrs Helen Rodgers wedi priodi â bachgen o Donyrefail ac yn byw yma. Mae hithau wedi bod yn gysylltiedig a';r feithrin ers pum mlynedd, ag mae merch arall Ms Hayley Boyle wedi dechre i gymryd lle Mrs Griffiths. Mae yna 19 o blant yn y meithrin, a chriw reit dda ar fore Gwener yn y Ti a Fi.

Ysgol Feithrin Thomastown

3

Tudalen Nesaf >