|
Penblwydd Hapus Gwell hwyr na hwyrach! Dathlodd Thelma Jones, 14 Cefn Bychan ei phenblwydd yn 90 oed ar ddiwrnod 'Dolig. Bu Thelma i ffwrdd yn yr Alban dros ei phenblwydd yn aros gyda'i theulu, ond trefnwyd partion ar ei chyfer yn y Mission Hall ar ei dychwelyd ac yna yng Ngwesty Ansawdd ar y 27ain o Ionawr. Gobeithio i chi fwynhau'r dathlu, a phob dymuniad da i chi oddi wrth eich ffrindiau lu ym Mhentyrch.
Neuadd y Pentref Ar Nos Wener 6ed o Ebrill, mi fydd y neuadd yn dathlu ei phenblwydd yn 25. Mae 'na gyngerdd wedi ei threfnu gyda Côr Meibion Pendyrus yn cymeryd rhan. Trefnwyd y noson gan ei bod hi'n debyg bu'r côr yn y gyngerdd agoriadol 25 mlynedd yn ôl, ac yn y dathliadau yn 10 mlwydd oed. Dwi'n siwr fydd galw mawr ar y tocynnau. Os oes awydd arnoch ddod i'r noson, mae'r tocynnau yn £5 yr un, ac mi fyddant ar werth yn siop Follis cyn bo hir, neu ar gael o aelodau'r pwyllgor.
Merched y Wawr Yn ein cyfarfod misol Mis Chwefror, trefnwyd noson yng nghartref Anne Hughes, Heol y Parc, i godi arian i'r Urdd. Cafwyd noson lwyddiannus wrth i ni fwynhau noson o gaws a gwin, prynu o'r bwrdd coch(gan iddi ddigwydd fod yn Noson San Ffolant), a cheisio dyfalu pwy oedd y priodfab a'r priodferch yn y lluniau priodas ! Codwyd dros £200 yn ystod y nosweth. Ein diolch mwyaf i Anne am gynnal y noswaith yn ei chartref, ac i Gareth a'r plant am ddodi fyny gyda tua 30 o fenywod yn eu ty!
Noson y Teulu Daeth criw o blant brwdfrydig ac oedolion llai heini i'r noson a gynhaliwyd gan Glwb y Dwrlyn yn Ysgol Creigiau ar 9ed Chwefror. Diolch arbennig i Dewi Hughes am drefnu gêmau'r plant ac i Peter Griffiths am alw'r Twmpath Dawns.
|
|