|
Bydd Bwrdd yr Eisteddfod a'r Celfyddydau yn cyfarfod yn fuan i drafod sut i ymdrin â'r gwaith llenyddol a chelfyddydol sydd wedi dod i law ar gyfer y brifwyl eleni. Dywedodd Huw Llywelyn Davies, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Caerdydd a'r Fro, "Er ein bod wedi ein tristau gyda'r sefyllfa fel ag y mae, byddai cynnal Eisteddfod Genedlaethol gydag ond canran o bobl ifanc Cymru yn cystadlu, wedi bod yn annheilwng o'r gwaith aruthrol sydd wedi ei gyflawni gan y gwirfoddolwyr yn y dalgylch. Edrychwn ymlaen i weld y brifwyl yn cael ei lwyfannu yn y brifddinas ymhen y flwyddyn". |
|
Dim Eisteddfod yr Urdd Eleni Mae Pwyllgor Gwaith Urdd Gobaith Cymru wedi penderfynu gohirio Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Caerdydd a'r Fro oherwydd sefyllfa clwy'r traed a'r genau, a'r ansicrwydd am drefniadau Eisteddfodau Cylch a Sir. Datganwyd siom gan Jim O'Rourke, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, na fydd yr ðyl yn cael ei chynnal eleni yn y brifddinas yn dilyn gwaith caled ac ymroddiad y gwirfoddolwyr lleol dros y dair blynedd diwethaf: "Mae ein cydymdeimlad gyda'r gwirfoddolwyr yn lleol yn ogystal â'r llu cystadleuwyr a hyfforddwyr sydd wedi bod yn paratoi ar gyfer y brifwyl." |

|
Cyrraedd y Targed mewn Steil |
|
Neil yn ennill Mil i Gymru Llongyfarchiadau i Neil Jenkins ar gyrraedd mil o bwyntiau mewn gemau rhyngwladol i Gymru. Fe gyflawnodd y gamp mewn steil yn y gêm yn erbyn Ffrainc ym Mharis ym mis Mawrth drwy sgorio 28 pwynt yn cynnwys cais. Er ei fod yn chwarae i Glwb Rygbi Caerdydd erbyn hyn mae'n parhau i fyw yn yr ardal ac yn cefnogi nifer o fudiadau lleol. |

|
W Mawr Mae'r Cyngor Sir wedi derbyn cais i adeiladu siop Woolworths enfawr yn cynnwys B&Q, Comet a Superdrug a chanolfan garddio ar safle'r hen siop Homeworld yn Tonysguboriau. Disgwylir i'r siop greu dros 250 o swyddi a bydd ar agor o 8 y bore hyd 10 yr hwyr. |

|
Bu wythnosau o baratoi dyfal ar gyfer y Sioe Ffasiwn yn Neuadd y Pentref, Pentyrch ar 9 Mawrth. Y bwriad oedd casglu arian tuag at Apêl Eisteddfod yr Urdd 2001 ond roedd na sibrydion fod hon yn mynd i fod yn sioe a hanner. Roedd y neuadd yn llawn a'r gynulleidfa'r ddwy ochr i'r cat-walk yn barod i roi barn ar y gwisgoedd arbennig. Cafwyd cymorth nifer o siopau'r ardal yn arbennig siop David Morgan i roi amrywiaeth o ddillad ar gyfer pob achlysur. O ddillad haf i ddillad gwynt a glaw. O ddillad cadw'n heini i ddillad crand ar gyfer priodas. Ac i gwblhau y wledd cip ar goesau dynion cyhyrog yr ardal o dan eu ciltiau Cymreig. Gwahoddwyd merched lleol i wneud y modelu ac roeddynt yn edrych yn hollol hamddenol a phroffesiynol wrth droedio'r llwyfan. Llongyfarchiadau i bawb a drefnodd ac a gymerodd ran yn y sioe arbennig hon sydd wedi galluogi Pwyllgor Apêl Creigiau Pentyrch a Gwaelod y Garth i gyrraedd eu nod o £15,000 dros flwyddyn cyn yr Eisteddfod! |