 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
MARCIAU LLAWN I YSGOL GWAELOD Y GARTH
Mae Ysgol Gwaelod-y-Garth sy'n darparu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, wedi mynd trwy arolwg llawn gan Estyn ym mis Chwefror, 2001 gyda marciau llawn ac mae'r staff wedi cael eu llongyfarch am eu hymroddiad. Mae adroddiad yr arolygwyr yn talu teyrnged i'r safonau da iawn sydd wedi eu cyrraedd gan y plant yn dilyn ymroddiad a safon uchel yr addysgu. Mae hyn, yn ôl yr adroddiad, yn dilyn arweiniad y Prifathro a'r Dirprwy. Wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd Prifathro Ysgol Gwaelod-y-Garth, Gerwyn Williams : "Rwy'n arbennig o falch o'r adroddiad yma. Mae'n adlewyrchu ymroddiad y plant a'r athrawon. Mae'r Bwrdd Llywodraethol a'r rhieni yn arbennig o gefnogol ac 'ryn ni'n gweithio fel uned." Talodd yr arolygwyr deyrnged i ddatblygiad moesol, cymdeithasol a diwylliannol y plant ac adroddwyd bod yr ysgol "yn darparu amgylchedd diogel a hapus ble mae yna werth i bob plentyn". Roedd y gyfathrach gyda rhieni "yn dda ac yn adeiladol". Yn ôl yr arolygwyr un o'r prif bryderon y dylai yr AALl ystyried yw cyflwr gwael a'r problemau yn gysylltiedig â'r adeiladau ac mae Peter Hammett, Cadeirydd y Bwrdd Llywodraethol yn gofidio yn arbennig am hyn. "Yn naturiol, rydw i a fy nghyd-lywodraethwyr yn ymfalchio yn yr adroddiad. Mae hyn wrth gwrs yn adlewyrchu safonau uchel a gwaith caled y plant a'r athrawon sy'n gweithio fel tîm. Fe fyddwn yn parhau i wasgu ar yr AALl i wella'r adeiladau."
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
Parti Ponty 2001 Parc Ynysangharad Pontypridd.Dydd Sadwrn 30 Mehefin.
Diwrnod o hwyl a sbri i'r teulu.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Dydd Gwener 29 Mehefin
2pm Gig yr Urdd yn y Parc 7pm Diawled Dawnus a Chwmni Gwen yn Neuadd Dowlais 8pm Catsgam a Dragonfall yng Nghlwb y Bont
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cylchoedd Meithrin Sardis, Pontypridd a Chefn Coed y Cymer, Merthyr Tudful yn lansio Parti Ponty
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Llongyfarchiadau i Osian Llwyd Jones, Ysgol Rhydfelen, ddaeth yn drydydd yng Ngystadleuaeth Tlws y Cerddor yng Ngðyl yr Urdd. Dyma oedd sylw'r beirniad Dr Lyn Davies - "Manhattan - Ffantasia ar 'Wrth fynd efo Deio'i Dywyn'. Darn
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
ar gyfer deuawd piano wedi ei ysgrifennu yn gymwys iawn. Y mae gwead y darn yn naturiol a sionc. Efallai y gallai yr Urdd ystyried y darn ar gyfer un o gystadleuthau'r dyfodol. Addawol iawn."
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Rygbi
Mae Robin Sowden-Taylor, Tþ Ffald, Pentyrch wedi bod yn cynrychioli Cymru yn Nghystadleuaeth Cwpan Rygbi y Byd i Ieuenctid dan 19 oed - daeth Cymru yn bedwerydd allan o 32 gwlad - Seland Newydd oedd y tîm buddugol. Ym mis Chwefror cafodd Robin y fraint o chwarae dros Gymru yn y Senior 7's yn Wellington, Seland Newydd ac ym mis Ebrill chwaraeodd am y tro cyntaf yn nhîm cyntaf Caerdydd. Mae wedi cael ei ddewis i fynd ar daith tîm Cymru i Siapan ym mis Mehefin. Pob lwc i Robin yn ei yrfa yn y dyfodol.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|