 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
TONYREFAIL
Gohebydd Lleol: D.J. Davies
|
|
|
|
|
 |
|
|
 |
|
|
|
|
|
CYDNABOD RHAGORIAETH CYLCH MEITHRIN
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
CAPEL Y TON Mae'n dda glywed fod Mrs M. Hunt yn gwella'n dda ar ôl cael triniaeth lawfeddygol i'w chlun. Mae wedi dioddef poen ofnadwy gan asgwrn y glun. Fe gymer dipyn o amser iddi gynefino a'r cymal newydd, a bydd yn hyfryd ei gweld yn ôl yn ein plith eto pan fydd wedi cael gwellhad llwyr.Mae rhai o'n haelodau yn methu bod yn yr oedfaon ers amser maith oherwydd llesgedd ac mae rhai dros eu 90au - Mrs Mary Williams, Mrs Mary Church y ddwy yn byw yn Llysyrefail a Mrs C. Buck o Tynybryn. Mae Mrs Gwennie John sydd dipyn yn ieuengach adre ar ôl treulio amser maith yn yr ysbyty ac yn llawer iawn yn well ond tipyn o ffordd i wella eto, hithau wedi cael cymal newydd i'w choes. Mae yna rai yng nghartref Gelliseren sydd â chysylltiad â'r Capel sef Mr Dillwyn Llewelyn a fydd yn dathlu ei benblwydd yn 90eg oed ym mis Mehefin. Mae ef cystal ag sydd i ddisgwyl. Mae Mrs Cassy Entwhistle yno hefyd a diolch iddi hi am gadw cysylltiad â mi am bytiau o newyddion. Mae Mrs May Edwards yno hefyd a Mrs Blod Evans o Tynybryn. Mae'r pedwar hyn yn gynaelodau o Ainon, yr eglwys fedyddiedig sydd wedi ei chau ers blynyddoedd bellach. Pob bendith iddynt i gyd.
NEUADD NEWYDD COEDLAI. Ar gyrion cymuned bychan Coedlai mae yna Neuadd newydd ar waith ac yn argoeli i fod yn adeilad deniadol. Mae'r gwaith wedi dechre ers mis
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Mae Mudiad Ysgolion Meithrin yn hynod falch o gyflwyno i Gylch Meithrin Tre Thomas sêl 'Y CYLCH RHAGOROL', sef tystysgrif sy'n cydnabod rhagoriaeth ym myd gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn y sector gwirfoddol. Dywedodd Mai Roberts, Cadeirydd Mudiad Ysgolion Meithrin:
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
"Mae pwysau cynyddol yn cael ei roi ar ddarparwyr gofal ac addysg y blynyddoedd cynnar i ddangos tystiolaeth o ansawdd uchel eu gwasanaeth a'u gofal. Gwyddom fod llawer o'n cylchoedd yn darparu gwasanaeth rhagorol, ond hyd yn hyn ni fu modd gennym i gydnabod hynny yn genedlaethol. Rydym yn hynod falch o gyflwyno'r se1 Cylch Rhagorol i Gylch Meithrin Tre Thomas. " I dderbyn sêl 'Y Cylch Rhagorol' asesir y cylch gan arolygwyr proffesiynol, annibynnol sydd yn cymryd i ystyriaeth holl agweddau'r Cylch Meithrin gan gynnwys y bobl, yr amgylchedd, a'r profiadau a gynigir i'r plant yn eu gofal. Bydd Cynllun 'Y Cylch Rhagorol' yn cydnabod yr elfennau arbennig hyn sy'n cyfuno i greu cylch o ansawdd rhagorol. Dywedodd Janet Richards, Arweinydd Cylch Meithrin Tre Thomas: "Rydym yn falch iawn o'r anrhydedd arbennig yma; mae'n golygu llawer i bawb sy'n ymwneud â'r Cylch - y staff, y rhieni a'r gwirfoddolwyr ar ein pwyllgor. Mae'r plant wrth gwrs yn mwynhau dod yma i ddysgu a chael hwyl trwy chwarae yn y Gymraeg. Mae'n bwysig iawn i gael cydnabyddiaeth genedlaethol am yr holl waith da, a'r safonau uchel a gynigir yma. Bydd derbyn sêl 'Y Cylch Rhagorol' yn ein galluogi ni, a chylchoedd eraill a fydd yn derbyn yr un anrhydedd, i gael cydnabyddiaeth genedlaethol, a dangos i rieni a darpar rieni ein bod yn cynnig gwasanaeth rhagorol i'w plant. "
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Hydref diwethaf a chafwyd tywydd eithafol o wlyb yn yr adeg hynny, ond yn ystod y misoedd diwetha gwelwyd symudiad mawr yn y datblygiadau. Bydd yr agoriad swyddogol tua chanol Mis Mehefin. Rwyf wedi bod lawr yn cael gweld y sefyllfa a chael cipolwg arno a chael ei fod yn adeilad ardderchog. Un sydd wedi bod yn flaenllaw ag yn Gadeirydd y pwyllgor lleol yw Mrs Marian Drew sy'n byw nepell o'r adeilad yn Stryd Gladys. Yn ôl Marian bydd y neuadd at ddefnydd rhan ddeol Cwmlai oedd rhaid i hynny fod i sicrhau grantiau o'r loteri ac eraill.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Mae Mrs Drew hefyd yn gyfrwng cysylltiad ar ran y gymuned i gadw gwyliadwraeth ar y gwaith sydd yn mynd ymlaen ar safle yr hen waith glo a golosg. Mae hi hefyd yn Bost Feistres yn Coedlai.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|