 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
DIFFYG AR Y LEIN?
Ni fydd BT yn creu 800 o swyddi mewn canolfan galwadau yn Nantgarw ac mae'r adeilad gafodd ei godi'n arbennig ar gyfer y ganolfan ar werth.
Fis Hydref y llynedd cyhoeddwyd y byddai'r ganolfan yn agor i ddarparu gwasanaeth cysylltwyr ffôn i'r cwmni ond mae'r adeilad gostiodd filiynau o bunnau ar werth.
Nid hon yw'r ergyd fwya diweddar i'r ardal.
Ddiwedd Mai cyhoeddwyd y byddai 250 o swyddi'n diflannu yn ffatri gwasanaethu peiriannau awyrennau GE.
"Rydym yn siomedig nad yw prosiect y ganolfan yn Nantgarw'n mynd yn ei flaen mor gyflym ag yr oeddem yn dymuno," meddai'r Cynghorydd Jonathan Huish, Aelod Datblygu Economaidd Cabinet Rhondda Cynon Taf. "Serch hynny, rydym yn gobeithio taw cam yn ôl dros dro yw hwn."
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Stondin CIC yn heulwen Parti Ponty
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Fe gliriodd y glaw a daeth tyrfaoedd yn eu miloedd i Barti Ponty eto eleni. Hon oedd y Parti mwyaf erioed a daeth y dorf fwya erioed yno i fwynhau'r wledd ar lwyfannau'r Fenter, BBC Radio Cymru ac S4C. Roedd y parc yn
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
ymdebygu i faes Eisteddfod gyda llu o stondinau o gwmpas y maes yn cynrychioli mudiadau o bob math. Llongyfarchiadau i bawb, a fu'n rhan o'r trefnu, am roi gwledd Cymraeg yng nghanol y cymoedd.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
ARIAN
Yng nghyfarfod diwethaf Fforwm Cymraeg Rhondda Cynon Taf cyflwynwyd gwybodaeth am y llu o gronfeydd arian sydd ar gael i hybu gweithgareddau gwirfoddol. Dyma restr o'r prif ffynonellau cyllid mudiadau gwirfoddol - Cronfa Gymunedol, Sportlot, Cyngor Y Celfyddydau, Cronfa Cyfleoedd Newydd, Cronfa Etifeddiaeth Y Loteri, Cyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf, Plant mewn Angen, Cronfa Adnewyddu Ardaloedd Glofaol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Mae gwybodaeth am y cronfeydd ar safle we www.menteriaith.net.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Y ddraig yn cael hwyl yn annog mamau a'u plant i ddewis addysg Gymraeg. Cynhaliwyd bore o weithgareddau yn Nhonysguboriau ar ddechrau mis Mehefin. Rhan o ymgyrch barhaol i gynyddu'r diddordeb mewn addysg Gymraeg.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|