Llongyfarchiadau i bawb gymerodd ran yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych. Bu Dawnswyr Nantgarw yn llwyddiannus yn y dawnsio stepio a'r prif Gystadleuaeth Dawnsio gwerin. Daeth Parti'r Efail yn drydydd yn y parti cerdd dant. Llongyfarchiadau hefyd i Basil Davies, Tonteg, ar dderbyn Tlws Coffa Elvet a Mair Elvet Thomas i gydnabod gwasanaeth arbennig athro Cymraeg fel ail iaith i oedolion.
Ysgol Feithrin Gwaelod y Garth
Pob lwc i Ann Williams a Judith Gough o Ffynnon Taf sy'n gadael y Cylch Meithrin a'r Cylch Ti a Fi yng Ngwaelod-y-Garth ar ôl 12 mlynedd. Diolch am eu gwaith rhagorol. "Mae'n amser symud ymlaen a gwneud rhywbeth gwahanol," meddai Ann. "Diolch i'r holl rieni ac aelodau'r pwyllgor am drefnu digwyddiad hyfryd ac am eu holl anrhegion a dymuniadau da." Yvonne Stephenson yw'r arweinydd newydd a Lynda Civil a Carol Morgan yw'r cynorthwywyr. "Gobeithio y byddan nhw'n cael cymaint o hwyl ag y cawsom ni dros y blynyddoedd," meddai Ann "a gobeithio y byddan nhw'n mwynhau'r her gymaint â ni." Mae'r Cylch Meithrin yn ail-agor ar Fedi 4 ac am fwy o fanylion, ffoniwch 20 813980 o ddiwedd Awst ymlaen.
Rali Dydd Glyndðr
Codi llais
cymunedau Cymru
O flaen y Cynulliad Cenedlaethol
yng Nghaerdydd
2yp Sadwrn
15 Medi 2001
Codi Pris
Gyda'r rhifyn hwn mae pris Tafod Elái wedi codi i 40 ceiniog y rhifyn. Bu'r pris yn 25c ers 1990 ond oherwydd costau cynyddol bu rhaid ail-ystyried y pris. Gobeithio eich bod yn parhau i gytuno fod y papur yn werth bob un o'r 40 ceiniog ac y byddwch yn tanysgrifio £4 am y flwyddyn (£7 drwy'r post).
Tafod Elái
£4 am y flwyddyn
Cliff Jones ac Eirlys Britton hyfforddwyr Dawnswyr Nantgarw gyda
Tlws Coffa Lois Blake
Cyfle Newydd i Fwynhau ein Llên
Trefnwyd Cylch Cadwgan i ni werthfawrogi'r gorau o fyd llenyddiaeth Gymraeg. Nosweithiau ysgafn a difyr a drefnwyd ac mae croeso i bawb ddod i Neuadd Pentyrch ar 5 Hydref i noson yng nghwmni beirdd y Taeogion.