|
diweddar Howard, mam Colin, Marilyn, Brian ac Alan, a mam-yng-nghyfraith Jennifer, Ann a Bill. Roedd y gwasanaeth yng nghapel Tþ Hebrwng D J Evans Forse, Yr Eglwys Newydd, a'r traddodiant yn Amlosgfa Thornhill, Caerdydd. Cydymdeimlwn a'r teulu.
O DDEINOSORIAID I'R GOFOD Mae gweithwyr General Electric Aircraft Engine Services, Nantgarw, wedi helpu trefnu arddangosfa yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd. Prentisiaid a graddedigion GEAES sy wedi cynllunio rhannau o arddangosfa Flight sy'n olrhain hanes hedfan o'r cyfnod cynhanesyddol i'r dechnoleg ddiweddara yng nghyfnod y gofod. "Mae'r gweithwyr wedi cyfrannu pum eitem arddangos," meddai Jeff Morgan o GEAES. "Roedd yn brofiad gwerthfawr gan eu bod yn gorfod gweithio fel tîm. Nid yn unig maen nhw wedi cynllunio eitemau. Maen nhw wedi wedi chwilio am ddeunydd yn lleol ac adeiladu'r eitemau. Ry'n i gyd yn falch o'u cyfraniad."
MARW GWLADYS GREEN Yn dawel yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant, ddydd Sul, Gorffennaf 15, bu farw Gwladys Mary Green, o Waelod-y-Garth, gwraig y diweddar Ernie, mam David, Gerald, Pat, a mam-yng-nghyfraith Veronica. Roedd y gwasanaeth yng nghapel Tþ Hebrwng D Caesar Jones, Rhiwbeina, Caerdydd, a'r traddodiant yn Amlosgfa Glyntaf, Pontypridd. Cydymdeimlwn a'r teulu.
CANATHON YN CODI £1,271 Wrth inni fynd i'r wasg, roedd Canathon Ysgol Gwaelod-y-Garth wedi codi £1,271. "Mae hwn yn gyfanswm syfrdanol hyd yn hyn," meddai Carrie Anderson, Trysorydd y Gymdeithas Rhieni. "Chwarae teg, mae'r plant wedi bod yn brysur yn casglu arian nawdd a chanu yn yr awyr agored." Deallwn y bydd y prifathro ym Medi yn awgrymu ble bydd yr arian yn cael ei wario.
|
|