|
PLASMAWR AMERICA 2001
"Un atgof yn enwedig a saif, sef y "Twin Towers" yn sefydlog eu lle ar orwel Efrog Newydd. Atgof yn unig ydyw mwyach, gorwel gwag fydd nawr ar gof. Estynnaf fy nghydymdeimlad dwysaf i'r rhai a gafodd eu effeithio wedi'r anffawd erchyll."
Ers agor yr ysgol ym Medi '98, breuddwyd nifer o staff a disgyblion Ysgol Gyfun Plasmawr oedd mynd fel criw ar daith berfformio. Nid trip arferol oedd yr un mewn golwg, ond yn hytrach un fyddai'n cynnig profiadau a mwynhad gwerthfawr a fyddai'n dylanwadu arnom am weddill ein hoes. O'r funud yr esgorodd y syniad o deithio'r Unol Daleithiau, roedd cyn gymaint ohonom mor frwdfrydig i daenu doniau a thraddodiadau Cymru dros y dðr. Criw o tua 50, staff a disgyblion, a adawodd yr ysgol am 6.30 y bore yn anelu am Heathrow, â'r bws yn llawn nid yn unig o fobol - ond o wisgoedd dawnsio gwerin,..clocs....a thelyn!! Pythefnos oedd hyd y daith, pythefnos lawn o ymweld â Bel-Air, Washington D.C, Pennsylvania, Baltimore........Lockport, Niagra......Westport....Efrog Newydd....yn aros gyda tri theulu i gyd. Braf oedd cael gweld ochr arall o fywyd yn America, yn hytrach na'r bywyd ystrydebol a fyddai'n amlwg wrth deithio o westy i westy! Rhaid cydnabod y croeso arbennig o gynnes oedd yn ein disgwyl yno, a'r ddawn oedd gan bawb i'n gwneud yn gartrefol yn eu cwmni yn syth!
|
|