Tudalen Nesaf >

< Dewisiadau

AMSER MAITH YMLAEN


Llongyfarchiadau i Ysgol Gyfun Rhydfelen am gyflwyno campwaith o gynhyrchiad o'r ddrama gerdd gan Caryl Parry Jones a Tony Llywelyn. Roedd yr Ysgol wedi defnyddio adnoddau proffesiynol y Miwni i greu naws arbennig ac agos. Ar adegau roedd Haman yn bygwth a dychryn rhai yn seddi flaen y gynulleidfa! Aeth y sioe o gyfnod 2099 yn y dyfodol yn ôl i 1904 a 1955 drwy gyfrwng y peiriant amser a creuwyd naws arbennig y cyfnodau drwy'r dawnsio a'r canu.
   Cynhyrchiad arbennig arall yn dilyn traddodiad hir Ysgol Gyfun Rhydfelen

Diweddglo sioe gerdd Ysgol Rhydfelen. Rhagor o luniau ar y dudalen cefn

RHAGLEN LAWN YR ÐYL DDRAMA


Cynhelir 16eg Gðyl Ddrama Tafod Elái yn Neuadd Dowlais, Llanilltud Faerdref ar nos Fawrth, Mercher, Iau a Gwener, 20 i 23 Tachwedd. Y beirniad eleni yw Ifan Huw Dafydd (Dic Deryn) ac yn barod mae wyth cynhyrchiad yn cael eu paratoi. Mae'r nosweithiau yn Neuadd Dowlais (rhwng y Ship a'r Crown ar y ffordd i Efail Isaf) yn gyfle i fwynhau gwledd o adloniant Cymraeg ac i gymdeithasu dros baned. Mae croeso hefyd i ddysgwyr a darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. Am wybodaeth pellach am yr ðyl neu am docynnau ffoniwch Colin Williams: 029 20890979.

Wrth annerch Cyfarfod Blynyddol Menter Iaith Rhondda Cynon Taf dywedodd Jane Davidson, Gweinidog Addysg y Cynulliad, fod

y Fenter Iaith yn adnodd gwerthfawr iawn ym mywyd Rhondda Cynon Taf a bod angen rhoi cyfle i bawb i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg.
   Bu ar ymweliad â Chanada yn yr haf ac fe'i syfrdanwyd gan y ddarpariaeth ddwyieithog - Ffrangeg a Saesneg yn nhalaith New Brunswick ac ymrwymiad cryf y llywodraeth i sicrhau fod dwyieithrwydd yn llwyddo. Roedd hefyd wedi ei chalonogi gan frwdfrydedd y trigolion i ddysgu ail iaith.
   Roedd am weld amryw o gyfleoedd yn ystod gyrfa addysg plentyn lle y gall ddewis dysgu a defnyddio'r Gymraeg. Fel cyn-athrawes roedd yn hollol ymwybodol o'r angen am hyfforddiant ac anogaeth i'r proffesiwn addysg ac roedd am wneud y Gymraeg yn bleser i'w defnyddio yn y Gymuned.

YSGOL PONT SIÔN NORTON YN 50
Sioe Gerdd
yn Ysgol Gyfun Coedylan
Tachwedd 27 - 29
Tocynnau: 01443 486838

Jane Davidson A.C. Yng Nghyfarfod Blynyddol
Menter Iaith


Tudalen Nesaf >