 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
CYNLLUNIAU ADDYSG GYMRAEG RHONDDA CYNON TAF
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi Cynllun Addysg Gymraeg 2000 - 2003 ar gyfer ymgynghori. Bu cryn ddisgwyl am y ddogfen hon a fu'n destun trafod maith rhwng y cyngor a Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Nawr mae cyfle i'r cyhoedd ymateb i'r polisiau sy'n cynnwys gwella'r ddarpariaeth yn y Sir. Y nod yw gofalu bod pob disgybl yn cael cyfle i fod yn gwbl ddwyieithog. Mae'n rhestru nifer o ysgolion cynradd sydd angen eu ehangu i ateb y galw cynyddol am addysg Gymraeg. Yn ardal Taf Elái rhestrir ysgolion Y Dolau, Heol y Celyn, Evan James, Llantrisant a Thonyrefail. Yn arbennig mae'n argymell agor ysgol newydd Gymraeg, Ysgol Cefn yr Hendy, ym Meisgyn ger Pontyclun. Mae'n siomedig gweld fod ystadegau y ddogfen wedi eu paratoi ar sail y flwyddyn 1999 ac yn fwy siomedig i ddeall y disgwylir i niferoedd yn yr Ysgolion Cynradd Cymraeg aros yn eithaf sefydlog rhwng 1999 a 2004. Er fod ymron i 25% o blant yn Nhaf Elái yn cael addysg Gymraeg, y ffigwr am y sir gyfan yw 15% felly mae llawer o waith cenhadu ac ehangu i'w wneud yng nghymoedd Rhondda a Chynon. Mae'r ddogfen yn fan cychwyn i drafod datblygu addysg Gymraeg ond mae angen llawer o gig ar yr ysgerbwd a amlinellwyd yn y cynllun. Bydd Cyfarfodydd Cyhoeddus ym mhob rhan o'r sir i gael ymateb y cyhoedd ac mae angen sicrhau cynrychiolaeth gref o gefnogwyr addysg Gymraeg ym mhob un. Mae croeso i unigolion ddanfon sylwadau i Mike Keating yn y Cyngor erbyn 11 Mawrth 2002. Hefyd mae Menter Iaith yn cynnal Fforwm i drafod y ddogfen ar brynhawn Mercher y 6ed o Fawrth.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ar ddydd Sadwrn olaf mis Ionawr priodwyd Bethan Ellis Owen â'r Parchedig Gareth Rowlands. Roedd yn achlysur arbennig iawn i Gapel Bethlehem, Gwaelod y Garth gan mai Gareth yw Gweinidog y capel a Bethan yn un o'r aelodau. Cafwyd datgeiniadau telyn a chytgan gan gôr y capel yn ystod y gwasnaeth dan ofal Y Parch Pryderi Llwyd Jones. Cynhaliwyd y wledd briodas yng Ngwesty'r Fro, Hensol.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
COLEG MENTER CYMRU
Mae menter dysgu ar-lein i ddarparu addysg menter o ansawdd uchel wedi cael cymorth sylweddol o raglen Amcan 1. Mae Coleg Menter Cymru yn cynnig cyfleoedd hyfforddi yn seiliedig ar y rhyngrwyd sydd wedi eu hanelu yn benodol at anghenion entrepreneuriaid newydd. Fe'i gynlluniwyd i fod yn ffordd wahanol o ddechrau neu ddatblygu busnes, trwy ddatblygu hyder unigolyn, darparu mentora busnes ac addysg menter berthnasol o ansawdd uchel sy'n mynd i'r afael â phroblemau busnes gwirioneddol ac nid astudiaethau achos. Mae partneriaid y fenter yn cynnwys Prifysgol Morgannwg, Coleg Pontypridd a Menter Ieuenctid Cymru.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
CWRS CYFIEITHU AR Y PRYD
Mae Menter Iaith yn cynnig cwrs cyfieithu ar y pryd ar Nos Lun, 25 Chwefror rhwng 7 a 9 y.h. am 5 wythnos ym Mhrifysgol Morgannwg, ger Pontypridd. Mae'r cwrs yn agored i ddechreuwyr a dylid ei ystyried yn gyflwyniad i gyfieithu ar y pryd a fydd yn rhoi digon o hyder i bobl fynd ymlaen i gynnig gwasanaeth. Pris y cwrs fydd £70 a £35 i gonsesiynau. Ffoniwch Gwynallt Bowen: 01685 877183.
|
|
|
|
|
|
|