< Dewisiadau   Tafod Elái Mawrth 2002   Tudalen Nesaf >

3 - 8 Mehefin 2OO2
Y BRIFWYL YN Y BRIFDDINAS!


Dyna deitl yr ymgyrch farchnata newydd i ddenu sylw i'r ffaith fod Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru 2002 yn dod i Gaerdydd a'r Fro. Ar ôl y siom o orfod gohirio y llynedd oherwydd clwy'r traed a'r genau, mae holl weithwyr yr Urdd yn yr ardal yn edrych ymlaen i groesawu gðyl ieuenctid mwyaf Ewrop i Gaeau Cooper y tu cefn i Gastell Caerdydd rhwng 3 a 8 Mehefin eleni.
   Drwy gydol misoedd Ebrill a Mai, bydd deunyddiau lliwgar a deniadol, yn daflenni, yn bosteri, hysbysebion ar fysus a baneri yn cyhoeddi'n eglur ledled Cymru fod yr Eisteddfod yn dod i'r brifddinas - a bod croeso i bawb, p'un a ydyn nhw'n siarad Cymraeg ai peidio. Yn ôl Sian Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddydau: "Dyma'r tro cyntaf ers 17 mlynedd i Eisteddfod yr Urdd ddod i Gaerdydd a'r Fro, ac rydyn ni wrth ein boddau bod gennym leoliad mor ganolog. Dylai'r achlysur fod yn gyfle gwych i dynnu sylw llawer iawn o bobl sy' erioed wedi clywed am yr Urdd o'r blaen - yn bobl sy'n byw yng Nghaerdydd ac yn ymwelwyr o rannau eraill o Brydain a thramor - at y ffaith fod prifwyl ieuenctid Ewrop yn rhywbeth sy'n digwydd yma yng Nghymru bob blwyddyn."

'Milwyr' y Rascals yn eu Sioe yn Neuadd Dowlais

Dwyn yr argyfwng iaith i sylw'r Cynulliad


Mewn cyflwyniad i un o Bwyllgorau'r Cynulliad ar ddyfodol yr iaith Gymraeg bu Cefin Campbell, cadeirydd Mentrau Iaith Cymru, yn pwysleisio yr angen am newidiadau polisi sylfaenol mewn rhai meysydd penodol a buddsoddiad ariannol sylweddol mewn cynlluniau i'w hadfer neu mi fydd yr iaith Gymraeg yn peidio a bod yn iaith hyfyw yn y rhan helaethaf o'r cymunedau hynny sydd yn draddodiadol wedi ei chynnal fel prif iaith y mwyafrif.
   "Mae'r 20-30 mlynedd nesaf yn mynd i fod yn rhai tyngedfennol i ddyfodol y Gymraeg," meddai Cefin Campbell, "mae angen i'r Cynulliad weithio gyda chyrff sydd yn gyfrifol am addysg, hyfforddiant a'r economi ac asiantaethau sy'n hybu'r iaith Gymraeg i sicrhau llwyddiant. Mae'r sefyllfa sy'n wynebu'r iaith Gymraeg yn ddifrifol, a'r unig beth a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol yw buddsoddiad a chefnogaeth sylweddol i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ei hatfgyfnerthu ym mhob cwr o Gymru."

IAITH
GWAITH


Gyda mwy a mwy o bwyslais yn cael ei roi ar gynnig gwasanaeth o safon i gwsmeriaid gan fusnesau o bob math, mae busnesau a chwmnïau ym mhob rhan o Gymru yn mynd ati i dynnu sylw at staff sy'n siarad Cymraeg.
   Mae ymchwil marchnad yn dangos yn glir fod yn well gan y cyhoedd ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg neu ddwyieithog, pan fo'r rheiny ar gael, ac mae'r cynllun Iaith Gwaith yn ffordd hwylus a chost-effeithiol o ddangos fod staff yn gallu siarad Cymraeg neu Saesneg. 
   Gellir archebu holl nwyddau Iaith Gwaith yn rhad ac am ddim drwy gysylltu â Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar 029 2087 8000 neu e-bost at marchnata@bwrdd-yr-iaith.org.uk.

FFORWM CYMRAEG
RHONDDA CYNON TAF

Twf Addysg Gymraeg

Dewi Jones, Cyfarwydwr Addysg
Dydd Mercher 6ed o Fawrth am 2.00pm
YMCA Pontypridd

Beirdd Ifanc

Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd rhan yng nghystadleuaeth Iolo Morganwg i feirdd ifanc yr ardal. Diolch yn fawr i Rhys Dafis am drefnu a beirniadu'r gwaith. Yr unig siom oedd mai dim ond dwy ysgol gyfun gymerodd ran.