|
GWYL DEWI Yn dilyn bwrlwm arferol ymarferion cystadlaethau'r Urdd yr adeg yma o'r flwyddyn, cynhelir yr Eisteddfod ysgol ar Chwefror 28ain. Y beirniad eleni fydd Mr Carey Williams (Cerdd) a Mrs Loreen Williams (Llafar). Dewisir cynrychiolwyr Garth Olwg ar gyfer yr Eisteddfod Gylch.
MAWRTH 1af Fel rhan o'n dathliadau Gwyl Dewi , cynhelir p'nawn o 'Weithgareddau'r Llysoedd' ar Fawrth 1af, cyfle i bob disgybl yn yr ysgol, gystadlu dros eu llys.
YMWELWYR Pleser mawr yn ddiweddar oedd croesawu dau o athrawon Ysgol y Garnedd, Bangor atom am y dydd. Bu Carl Evans a Glenda Rigsby yn trafod gyda athrawon y ddau gyfnod allweddol - ac yn arbennig yr adran Feithrin, ein dulliau ni yn ysgolion Cymraeg y De Ddwyrain, o gyflwyno iaith i blant sy'n helaeth o gartrefi di-Gymraeg; ac yn cymharu â'r sialens sy'n wynebu Ysgol y Garnedd, ble mae tua pum deg y cant o'r plant a dderbynnir i'r ysgol yn dod o gartrefi ble siaredir Cymraeg. Pleser yn ddiweddar hefyd oedd croesawu Jane Davidson, Gweinidog Addysg a Dysgu Gydol Oes y Cynulliad atom. Treuliodd gyda'r nos yn ymuno â'r Llywodraethwyr, gweithlu'r Ysgol a phwyllgor y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon, fel cam tuag at gadarnhau gwerth ac arwyddocâd "Buddsoddwyr mewn Pobl" i'r ysgol.
CHWARAEON Llongyfarchiadau i'r tîm pêl rhwyd a thîm pêl droed y merched, sydd wedi cystadlu'n frwdfrydig ac wedi bod yn llwyddiannus yn ddiweddar. Yn yr un modd, bechgyn y tîm rygbi, er nad mor llwyddiannus yn ddiweddar, yr un mor frwdfrydig.
GARTH OLWG NEWYDD Fe fydd y cyflwyniad terfynol o'r cynlluniau ar gyfer y Garth Olwg newydd a'r Rhydfelen newydd gan y ddau gwmni adeiladu sydd ar y
|
|