|
DDYDD A NOS - PRIFWYL IEUENCTID Â RHYWBETH I BAWB
Gyda dim ond wythnosau i fynd tan ðyl ieuenctid fwyaf Ewrop, mae 400 o ddisgyblion ysgol yng Nghaerdydd a'r Fro wrthi'n rhoi'r sglein ar uchafbwynt adloniant nos Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2002. Gwledd gerddorol ydi Syniad Sam sy'n siwr o godi'r to yn Neuadd Dewi Sant yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Yn gymysgedd liwgar a llawn egni o gerddoriaeth a dawns, gyda chast anferth o ddisgyblion rhwng 9 ac 11 oed ysgolion cyfrwng Cymraeg Caerdydd a Bro Morgannwg, bydd Syniad Sam yn gyfle gwych i bawb weld talent ifanc yr ardal. Meddai Siân Eirian cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddydau: "Stori cwbl wreiddiol ydi hon, ar y thema gyfoes a chyffrous o deithio'r gofod, sydd wedi tanio dychymyg a brwdfrydedd y plant i gyd. Rydyn ni'n ffodus ein bod wedi llwyddo i ddenu talentau fel Ffion Harries i sgrifennu'r geiriau a Geraint Cynan i gyfansoddi'r gerddoriaeth. Ac mae Gwawr Dafis, y cyfarwyddwr, yn llwyddo i gael perfformiad eu bywydau allan o'r prif gast o 100, a'r corws o 300. Tipyn o gamp, yn wir!" Noddir Syniad Sam gan Gronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru, a bydd y sioe yn cael ei llwyfannau am dair noson, o nos Lun i nos Fercher 3-5 Mehefin. "Yn nhraddodiad gorau sioeau cerdd Eisteddfod yr Urdd", ychwanegodd Siân Eirian, "mae'n siwr o adael cryn argraff. Rwy'n siwr bydd y profiad yn anfon ein cynulleidfaoedd allan yn hymian ac yn danwnsio!"
|
|