<< Tudalen Blaenorol  Tafod Elái Ebrill 2002  Tudalen Nesaf >>

CRYFHAU CYNLLUN IAITH


Mae Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf wedi ail-lansio eu cynllun iaith gyda nifer o newidiadau sylfaenol yn eu darpariaeth. Y bwriad yw sicrhau fod pob gwasanaeth ar gael yn Gymraeg a Saesneg.  Mae'r cynllun newydd yn cynnwys ffigyrau am y nifer o siaradwyr Cymraeg yn y Sir ac am y twf ymhlith pobl ifanc.
   Y neges bwysicaf i drethdalwyr a thrigolion y sir yw i gymryd pob cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg wrth drafod unrhyw wasanaeth gyda'r Cyngor Sir.
   Roedd y lansiad yng Nghanolfan Hamdden Pendyrus ar 25 Mawrth yn ddiwedd cyfnod i John Albert Evans sy'n ymddeol fel Swyddog Iaith y Sir ar ôl cyfnod o dros 30 mlynedd o wasnaeth i addysg a'r iaith Gymraeg yng nghymoedd Morgannwg.
   Mae'r cynllun iaith newydd yn gyfle arbennig i sicrhau dyfodol yr  iaith Gymraeg yn y sir.

Ysgol Castellau

Eisteddfod Gylch
Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran yn yr Eisteddfod Gylch yn Llanhari. Cafwyd llwyddiant gyda'r côr, parti deulais, parti llefaru, grðp dawnsio disgo a'r dawnsio disgo unigol. Pob lwc iddynt yn y Sir.

Rygbi
Enillodd y tîm rygbi yn erbyn Tonyrefail 45 - 5, Pen yr Englyn 14 - 0, Bro Ogwr 14 - 7 ond colli bu'r hanes yn erbyn ysgol yr Hen Gastell, Penybont 14 - 0 a Phontyclun 35 - 7. Diolch i Mr Davies am hyfforddi'r tîm.

Pêl-rwyd
Enillodd y tîm pêl-rwyd dair gêm yng nghystadleuaeth yr Urdd yn Nhretomas.

Diwrnod y Llyfr
Eleni ar ddiwrnod y llyfr, Mawrth 14, cynhaliwyd cystadleuaeth yn yr ysgol i'r Adran Iau. Daeth aelodau o'r staff a'u hoff lyfr i'r ysgol ac yr oedd yn

rhaid i'r plant ddyfalu perchennog y llyfr. Enillwyd y gystadleuaeth gan Jemma Benjamin, Blwyddyn 6. Ymunodd plant yr Adran Iau i gydadrodd darn o farddoniaeth a ddarlledwyd ar Radio Cymru yn y bore.

Dathliadau Gðyl Ddewi
Cynhaliwyd Eisteddfod yr ysgol ar ddydd Gwener ola'r hanner tymor. Cafwyd cystadlu brwd a phawb wedi mwynhau. Diolch i Mrs Euryl Walters am feirniadu mor drylwyr.
   Ar Fawrth y cyntaf cafwyd perfformiadau gan fuddugwyr yr Eisteddfod a chyhoeddwyd enillwyr y cystadlaethau cartref. Roedd hi'n ddiwrnod hwylus dros ben.

Sgwad 'Sgwennu
Derbyniwyd Owain Williams, Blwyddyn 6, i fynychu'r sgwad 'sgwennu yn diweddar. Mae Owain wrth ei fodd yn ysgrifennu ac enillodd e'r gadair am ysgrifennu stori yn Eisteddfod yr ysgol eleni.

Parti Llefaru dan 12 oed

Stephanie Lawrence Dawnsio Disgo Unigol

3

<< Tudalen Blaenorol  Tafod Elái Ebrill 2002  Tudalen Nesaf >>