<< Dewisiadau

Tudalen Nesaf >>

ERGYD I'R ARDAL


Cyhoeddwyd gan Gwmni CPL fod Gwaith Golosg y Cwm, Beddau, yn cau yn yr haf. Bydd 150 o bobl yn colli eu swyddi yn sgil y penderfyniad a achoswyd gan leihad yn y galw am y golosg o safon uchel a gynhyrchir yn y Cwm a mewnforion rhad o dramor.
   Rhagor ar dudalen 16.

AGOR ARCHFARCHNAD
AR NEWYDD WEDD 

Cefnogwch yr Eisteddfod


O'r diwedd mae'r disgwyl a'r paratoi yn dod i ben ac fe gynhelir Eisteddod yr Urdd yng Nghaerdydd o'r 3ydd i'r 8ed o fis Mehefin.
   Dymunwn pob llwyddiant i bawb o'r ardal sy'n cystadlu. Hefyd i bawb fydd yn helpu i gynnal yr ðyl. Mae angen llu o stiwardiad gwirfoddol i gynnal gðyl enfawr a llwyddiannus ac mae'n sicr y byddai swyddfa'r eisteddod yn hoffi clywed gennych os oes amser sbar yn ystod wythnos gwyliau Mehefin.

Pan agorwyd archfarchnad y Co-op yn Ffynnon Taf ar ei newydd wedd derbyniodd Ysgol Gynradd Gwaelod-y-Garth siec gwerth £100.
   Y plant dorrodd y rhuban yn y seremoni agoriadol ar Fawrth 28, Dydd Iau Cablyd.
   "Ry'n ni'n gobeithio y bydd y cwsmeriaid yn hoffi'r drefn newydd, fodern ac y gallwn ddarparu ar gyfer anghenion siopa'r gymuned i gyd," meddai Mark Thomas, y rheolwr.
   Gwariwyd £100,000 ar yr adnewyddu.

CYNGHERDDAU EISTEDDFOD YR URDD CAERDYDD


Nos Lun, 3 Mehefin i Nos Fercher, 5 Mehefin, sioe gerdd gynradd, Syniad Sam yn Neuadd Dewi Sant.
Nos Lun a Nos Fawrth, 3 a 4 Mehefin, sioe gerdd uwchradd yn Theatre Stanwell, Penarth
Nos Fercher, 5 Mehefin ym Mhafiliwn yr Eisteddfod--cyngerdd band jazz a chorau ieuenctid.
Nos Iau, 6 Mehefin ym mhafiliwn yr Eisteddfod--noson y sioeau gyda Fflur Wyn, Sian Cothi, Steffan Rhys Williams a llawer mwy!
Nos Sul, 9 Mehefin, yng Nghapel Tabernacl - Cymanfa Ganu.

Tocynnau: 029 2080 3360.
caerdydd2002@urdd.org

Cornel Newydd


Diolch i Colin Murphy, Meisgyn, am gynnig paratoi cyfres o groeseiriau i Tafod Elái.
   Mae'r gyntaf o'r croeseiriau i'w weld ar dudalen 19 o'r rhifyn hwn ac yn ôl Colin mae o'r safon syml. Ceir cliwiau o un neu ddau air yn unig a rhaid meddwl am un gair arall sy'n golygu fwy neu lai yr un peth.
   Ewch ati i gwblhau'r dasg ac fe fydd gwobr i'r enillydd cyntaf o'r het.

Tudalen Nesaf >>