 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
PARTI PONTY ENFAWR
Gyda balchder mae Menter Iaith, ar waith yn ardal Rhondda Cynon Taf a'r Cylch, yn gwneud y paratoadau ar gyfer Gðyl Dathlu 10 Mlynedd Menter Iaith (1992 - 2002). Gyda mwy o stondinau, sêr radio a theledu, cystadleuaeth y bandiau, mwy o ysgolion a chwaraeon i gymryd rhan ynddynt, mae hi'n argoeli'n dda ar gyfer y penwythnos. Dywedodd Steffan Webb, Prif Weithredwr Menter Iaith, "Rydym wrthi yn gweithio'n galed gyda phartneriaid o Gymru ben baladr. Y flwyddyn yma rydym yn trefnu mwy o weithgareddau a chyngherddau. Mae Parti Ponty yn enghraifft dda o bobl yn cydweithio er lles y boblogaeth leol. Hoffwn ddiolch i staff Rhondda Cynon Taf sy'n gweithio tu ôl i'r llenni i wneud yr achlysur yn llwyddiant." "Dylid nodi yn arbennig," medd Steffan Webb "y cyngherddau tu hwnt i ddydd Sadwrn fel 'Prynhawn y Bandiau Roc' a drefnir gan Urdd Gobaith Cymru yn y Parc ar ddydd Gwener, Noson Werin a Roc yng Nghlwb y Bont nos Wener; Drama nos Wener yn Neuadd Dowlais a Gig yn y Ffatri Bop, Porth ar nos Sadwrn. Dyma'n ffordd unigryw ni o ddathlu 10 Mlynedd Menter."
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Llongyfarchiadau i Glwb Rygbi Pontypridd ar eu llwyddiant yng nghwpan y Principality a dod yn agos iawn yn rownd derfynol Tarian Parker Pen. Mae wedi bod yn dymor o atgyfnerthu yn y clwb gyda'r rheolwr, Lyn Howells, yn dychwelyd i roi sglein ar y perfformiad. Dymuwn pob llwyddiant i bump o'r tîm fydd yn rhan o dîm Cymru sy'n teithio i Dde Affrica--Gethin
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Jenkins, Mefin Davies, Robert Sidoli, Michael Owen a Richard Parks. Efallai mai rheswm arall dros lwyddiant y tîm yw'r llu helaeth o gefnogwyr sydd yn eu dilyn. Mae'r gytgan 'Olé, Olé, Olé, Olé, Ponty, Ponty' yn rhan o chwedloniaeth yr ardal ac i'w glywed môr aml â chaneuon enwocaf Tom Jones. Mae na ddisgwyl mawr am y tymor nesaf.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
RHOI'R CLWB AR EI DRAED
Bu ymgyrch Clwb y Bont i godi arian i glirio'i ddyled yn llwyddiannus dros ben gyda dros £15,000 yn cael ei addo neu fenthyg mewn cyfnod o dair wythnos. Roedd Craig Duggan, Trysorydd y Clwb, yn falch iawn o'r ymateb a dywedodd "Bydd hyn yn galluogi'r Clwb i ddatblygu ac i barhau'r gwaith o hyrwyddo'r iaith a'r diwylliant Cymraeg yn yr ardal. heb ddibynnu ar unrhyw fragdy "
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Colin Gregory yn darllen erthygl am Glwb y Bont yn y Western Mail
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|