 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Mae'r mis diwethaf wedi bod yn un prysur iawn! Dros y pasg fe aeth 135 o ieuenctid Rhondda Cynon Taf i Alton Towers a 39 i chwarae gyda Phaent (paintballing) yng Nghenarth. Mae'r clybiau wythnosol dal yn rhedeg yn gryf ac hoffwn croesawi dwy aelod o staff newydd, Angharad Davies sy'n arwain y clwb Drama "Diawled Dawnus" a Heather Payne sy'n helpu Lowri Davies arwain clwb cynradd drama y "Rascals". Mae tripiau tymhorol ac yn ystod y gwyliau dal i redeg. Mae'r clwb Caffi Syber ym Mhontypridd yn edrych mlaen at eu trip nesaf nhw ar 30 Mai. Edrychwch allan am y gweithgareddau bydd ar gael i ieuenctid RhCT yn ystod gwyliau'r Haf.
CICIO Mae Cydlynwyr CIC o ardaloedd RCT, Bro Ogwr, Caerffili a Chaerdydd wedi dod at ei gilydd i gynhyrchu cylchgrawn CICIO. Cylchgrawn i ieuenctid gan ieuenctid llawn adolygiadau, lluniau a gemau. Edrychwch allan amdani o 28 Mai ymlaen!!!!!
POPIO Ar 22 o Fai fe lansiwyd POPIO. Mae CIC wedi bod yn ffodus iawn i dderbyn grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i edrych am dalent Cymraeg yn y Cymoedd. I roi y cyfle i ieuenctid yr ardal gystadlu a pherfformio trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y canwr buddugol yn ennill y cyfle i recordio cân yn broffesiynol gyda cwmni recordio BOCS 50 a £100, diolch unwaith eto i BOCS 50. Edrychwch allan am y rownd derfynol ym Mhontypridd ym mis Medi!!!! Am fwy o wybodaeth - www.cicio.net/popio
Mae hefyd, digon o swyddi a chyfleoedd gwirfoddoli ar gael. Yn enwedig i arwain clybiau a dw i hefyd yn edrych am dîm gynhyrchu ar gyfer rownd derfynol POPIO. I gysylltu â mi, Dawn Williams eich Cydlynydd Ieuenctid - cic@cicio.net
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Paratoi i Ymladd Paent yng Nghenarth
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
PONTYPRIDD
Gohebydd Lleol: Delyth Jones a Jayne Rees
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Croeso i bawb-aelodau hen a newydd. Tocynnau teulu ar gael. Cysylltwch a Ffion am fwy o fanylion-P'pridd 404960.
Ysgol Evan James. Dydd Iau, Ebill 25ain daeth dau o gyflwynwyr"Planed Plant" i'r ysgol i siarad â disgyblion Blwyddyn 5 am eu dymuniadau. Gobeithio'n wir y bydd ambell un yn cael eu dewis i fynd ar raglen newydd sbon i wireddu eu breuddwydion!!
Aeth Dosbarthiadau 12,13,14 a 15 i Lancaiach Fawr i ddysgu mwy am fywyd y Tuduriaid a'r Stiwardiaid.Treuliodd Ddosbarthiadau 9, 10 ac 11 y diwrnod yno hefyd yn nhy y Cyrnol Pritchard.
Fe ddaeth Iolo Williams o raglen "Profiad" i sgwrsio a 6 o ddisgyblion Bl. 3.Edrychwn ymlaen at glywed eu barn am eu rhieni ar y teledu cyn bo hir.
Buodd Phil Harris a'i ffrindiau yn difyrru nifer o blant yr ysgol mewn sioe yn llawn sbri!
Aeth Mr. Thomas a'i dîm rygbi i Ðyl Rygbi Trehopcyn. Buodd 4 ysgol yn chwarae yn ystod pnawn Gwener gwlyb iawn.Daeth llwyddiant i dimoedd Bl.5 a Bl. 6. Cyflwynodd Gethin Jenkins y Tystysgrifau cyn iddo fynd ymlaen i serenu i dîm Pontypridd yn Stadiwm y Mileniwm y diwrnod wedyn.
Ffarwel dros dro i Delyth Kirkman sy'n cychwyn cyfnod mamolaeth a chroeso i Elin Llywelyn tan ddiwedd y tymor.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Newyddion Pont Siôn Norton
Genedigaeth Llongyfarchiadau i Heledd a Geraint Day ar enedigaeth merch fach ar Mai 2ail. Croeso mawr i Gwenno Angharad.
Llongyfarchiadau Llogyfarchiadau i Bethan Arthur ar ennill cystadleuaeth ysgrifennu llythyr yng nghylchgrawn yr Urdd, Cip. Enillodd Bethan wobr o £40 iddi hi ei hun a £100 i'r ysgol. Fe fydd yn mynd ar ymweliad i Stiwdio Cip yn yr Haf.
Canolfan Cilfynydd Bu Blwyddyn 5 yn ymweld â chanolfan Hyder yng Nghilfynydd i ddysgu mwy am wyfynod.
'Rain Forest Road Show' Ar Fai 24ain cynhaliwyd gweithdy yn yr ysgol i ddisgyblion Blwyddyn 5, fel rhan o broject Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a drefnwyd gan EBP. Dilynwyd y gweithdy gan broject yn y dosbarth.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ysgol Feithrin Sardis. Bydd yr ysgol feithrin yn cynnal noson gymdeithasol ar nos Wener ,Gorff. 19eg yng Nglwb Rygbi Pontypridd i godi arian. Mae nifer o weithgareddau wedi eu trefnu-barbiciw, cwis, stondinau ayyb.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|