<<Dewisiadau             

Tudalen Nesaf >>

AMSER I WEITHREDU


Mae'r flwyddyn diwethaf wedi bod yn gyfnod o drafod ac ystyried dyfodol yr iaith Gymraeg ac ym mis Gorffennaf cyhoeddwyd datganiad 'Dyfodol Dwyieithog' Llywodraeth Cynulliad Cymru.
   Mae cyfrifoldeb arnom i gyd i ddefnyddio'r iaith ar bob achlysur posib. Mae angen i Gyngor Sir Rhondda Cynon Taf roi cyhoeddusrwydd llawer mwy eang i'w Cynllun Iaith ac i sicrhau fod pob swyddog yn y Cyngor yn cefnogi'r cynllun.
  Mae'n bryd hefyd i'r Cynulliad sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn cael tegwch wrth gyflogi swyddogion. Yn ddiweddar gwelwyd hysbysebion yn y wasg am swyddogion cymunedol yn gweithio i Fwrdd yr Iaith ar gyflog o dros £2000 y flwyddyn yn llai na swyddogion tebyg yn gweithio i gyrff megis yr Awdurdod Datblygu. 
   Mae angen sicrhau nad yw'r iaith yn cael ei di-brisio ac nad yw pobl sydd am weithio i ddatblygu'r Gymraeg yn cael eu is-raddio. Mae'r arian sydd yn cael ei fuddsoddi yn yr  iaith Gymraeg yn llawer llai na'r hyn sydd yn cael ei wario ar rai o brosiectau eraill y Cynulliad.

Sioe Prosiect Amgylcheddol Ysgol Gyfun Llanhari
(gweler tudalen 8 a 9)

SUSTEM RADIO MESH BANDEANG

Mae BT wedi cychwyn treialu sustem newydd i ddarparu gwasanaethau bandeang (broadband) i gartrefi yn yr ardal.
   Ar ddechrau'r cynllun yn ardal y Beddau dywedodd Paul Reynolds,

Prif Weithredwr BT Wholesale, fod posibiliadau enfawr i ddatblygu gwasanaeth bandeang drwy sustem radio mesh i gartrefi a busnesau sydd y tu hwnt i gyrraedd darpariaeth ADSL sy'n gwithredu dros y gwifrau ffôn. Bydd cartrefi yn gallu derbyn fideo-ar-y-pryd oddi wrth ddarparwyr teledu Yes yng Nghaerdydd.
   Mae radio Mesh yn gweithio drwy osod trosglwyddyddion bach ar bob tþ neu fusnes sy'n rhan o'r rhwydwaith i ddanfon y signal ymlaen i'r adeilad nesaf.
   Mae'r arbrawf cychwynol dros ardal o 80km² o gwmpas Pontypridd yn cynnwys  Llantrisant, Beddau a Llanilltud Faerdref i 100 o dai a busnesau sydd tu hwnt i gyrraedd gwasanaeth ADSL.
   Mae BT Wholesale wedi darparu ADSL mewn 1,117 o gyfnewidfeydd yn cynnwys  Pontypridd.

HYBU'R GYMRAEG


Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi cynhyrchu fideo i ddangos gwerth yr iaith i unigolion a chwmniau preifat. Dewiswyd trawsdoriad o bobl i gyfrannu, ac mae'n adlewyrchu delwedd deinamig a modern o'r iaith Gymraeg.
   Gellir defnyddio y fideo i godi ymwybyddiaeth o'r iaith yn y gweithle neu mewn dosbarthiadau dysgu Cymraeg. Mae fersiwn gydag is-deitlau Saesneg ar gael hefyd. Mae'r fideo a CD ROM ar gael yn rhad ac am ddim oddi wrth Fwrdd yr Iaith Gymraeg, 029 2087 8001.

BROLIO

Yn ystod yr haf bu Alwyn Siôn yn recordio cyfres ar bapurau bro ar gyfer Radio Cymru. Dewiswyd Tafod Elái fel un o'r papurau ac ar ddydd Sul, 1af Medi am 13.30 ar Radio Cymru cewch glywed beth o hanes y papur a barn rhai o'n cyfranwyr. Ail-ddarlledir y rhaglen am 12.20 ar ddydd Gwener, 6ed Medi.

Tudalen Nesaf >>