<<Tudalen Blaenorol             

Tafod Elái 170  Medi 2002           

Tudalen Nesaf >>

CIC
( 01685 882299
Ê 01685 886848
cic@cicio.net


Diwedd Tymor arall o ysgol a mae nifer o bethau wedi bod yn digwydd gyda CIC dros y tymor diwethaf.

Parti Ponty
Fe wnaeth criw Caffi Syber perfformio ar lwyfan Menter Iaith ym Mharti Ponty.  Fe ganodd Bethan cân "Chwarae'n troi'n chwerw" ac fe ddawnsiodd Louise, Zoe, Laura a Nichola.  Roedd y bechgyn i fod i wneud rap ond fe gafon nhw nerfau ar y funud ola i fynd fyny ar lwyfan!

Roedd criw Dawnswyr Dâr yn arbennig o dda dan hyfforddiant Gemma Davies - os weloch chi nhw yn dawnsio ac eisiau ymuno â grðp dawnsio disgo mae Dawnswyr Dâr yn cwrdd bob nos Lun yng nghanolfan y Urdd, Aberdâr 7- 8:30pm.  Neu edrychwch allan am glwb newydd yn ardal Pontypridd ar ddechrau mis Medi!!!!!
   Hefyd fe berfformiodd Y Rascals ar lwyfan, yn rhoi rhagflas o'i sioe nhw "Barti Ddu".
   Hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i bawb a wnaeth cymryd rhan ar lwyfan Menter Iaith ym Mharti Ponty eleni a gobeithio byddwch chi a'ch ffrindiau yn dod yn ôl aton ni'r flwyddyn nesa'.

Barti Ddu
Fe wnaeth Y Rascals gael noson o lwyddiant wrth berfformio Barti Ddu yn Neuadd Dowlais ar 16 Gorffennaf.  Diolch i'r holl rhieni, teulu a ffrindiau a ddaeth i gefnogi.  i'r plant am berfformiad gwych ac i wirfoddolwyr y grðp - Amy Williams a Steven Chadwick am eu gwaith ar y noson.  Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r arweinyddion Lowri Davies a Heather Payne gan eu bod nhw yn ein gadael ni ar ôl gweithio'n galed gyda'r Rascals felly pob lwc yn y dyfodol!   Os ydych chi am ymuno â grðp drama yn eich ardal y mae'r Rascals yn ail ddechrau 7 Medi 2002 10:30 - 12:30 yn Neuadd

Dowlais. Neu os ydych chi'n hýn ac eisiau ymuno â grðp mae'r Diawled Dawnus, grðp drama i oedran ysgol gyfun yn cwrdd pob nos Lun am 5:30 - 7:30pm yn dechrau ar  9 Medi 2002.

Caffi Syber

Mae'r criw Caffi Syber wedi cael nifer o brofiadau arbennig dros y mis diwethaf, nid yn unig maen nhw wedi perfformio ar lwyfan Parti Ponty ond wedi bod i "Quasar" ar drip a hefyd wedi cael noson pizza a fideo i orffen eu sesiynau am y tymor. Cofiwch os ydych chi am ymuno yng ngweithgareddau criw Caffi Syber mae nhw'n cwrdd bob nos Iau am 7 - 9pm yn y YMCA, Pontypridd.

Gweithgareddau Haf CIC
Dros gwyliau'r haf mae CIC wedi gwneud nifer o weithgareddau, o ddringo i syrffio felly edrychwch ar wefan cic - www.cicio.net i weld y lluniau o ieuenctid Rhondda Cynon Taf yn mwynhau gweithgareddau Haf CIC!

Popio
Mae popio yn prosiect CIC sy'n edrych am dalent yn Rhondda Cynon Taf.  Rydyn ni wedi cynnal yr holl glyweliadau ac hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth gyfrannu.  Hoffwn gyhoeddi mae'r 6 ieuenctid sy'n cymryd rhan yn y rownd derfynol yw:
Kate Broadstock Ysgol Rhydywaun
Jeni Lewis Ysgol Rhydywaun
Jessica Jones Ysgol Rhydywaun
Alun Cowles Ysgol Rhydfelen
Robert Notley  Ysgol Y Cymer
Menna Rodgers Ysgol Rhydfelen

Edrychwch allan amdanyn nhw ar Medi 12 2002 yn y Miwni ym Mhontypridd, lle bydd noson o adloniant di ri!

Dawn Williams

Cynhyrchiad Barti Ddu

SAFLE AR Y WE I BOBL IFANC

Prynu ar y We? Mynd â dilledyn nôl i'r siop? Pendroni lle mae caniau diod yn mynd ar ôl eu rhoi yn y bin?
   Gall pobl ifanc ddod o hyd i wybodaeth am hawliau a chyfrifoldebau fel defnyddwyr drwy edrych ar wefan newydd Cyngor Defnyddwyr Cymru:
www.consumereducation.org.uk. Ceir gwybodaeth i gefnogi a rhoi hyder i bobl ifanc sy'n dysgu sut i fyw mewn byd cymhleth ac annibynnol.
   Mae'r safle yn gwneud dysgu yn hwyl drwy gyfrwng taflenni gwybodaeth, a chwisiau ar gyfraith defnyddwyr, siopa, hysbysebu, arian, iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a sut i gwyno.
   Dywed Teleri Jones, Swyddog Addysg Defnyddwyr, Cyngor Defnyddwyr Cymru "Mae ein safle addysg defnyddwyr yn adnodd ar gyfer dysgu gydol oes, fydd yn helpu pobl ifanc i ddatblygu hyder, gwneud dewisiadau call am brynu nwyddau a defnyddio gwasanaethau ac adnabod sut gall eu dewisiadau effeithio ar bobl sy'n byw mewn rhan arall o'r byd."

3

<<Tudalen Blaenorol             

Tudalen Nesaf >>