<<Tudalen Blaenorol             

Tafod Elái 170  Medi 2002           

Tudalen Nesaf >>

TONTEG A PHENTRE'R EGLWYS

Gohebydd Lleol: Meima Morse

Capel  Salem Tonteg

Cynhaliwyd gwasanaethau dros yr Haf gan y Parchedig Lona Roberts ar Gorffennaf 28ain,  yr aelodau ar Awst y 4ydd,  y Parchedig Ryan Thomas ar Awst 11fed a'r Gweinidog, - y Parchedig Peter Cutts,- am ddau Sul olaf Awst.  Y Parchedig Peter Cutts hefyd fydd yn gweinyddu dros fis Medi ar ei hyd.  Dymunir atgoffa ffrindiau ac aelodau am drefn newydd amser Gwasanaethau Sul o Fedi'r 8fed. ymlaen;
  Oedfa Gymraeg   -   9.30 y.b.
  Gwasanaeth Teuluol Newydd  -  11 y.b.
  Y Gwasanaeth Saesneg arferol  -  6.00y.h.
   Bydd Seiat y Sgrepan yn ail gydio ar Nos Fercher, Medi'r 12fed yn Nhalrynn, Tonteg.  Mae'r croeso twymgalon yn para i ymestyn tuag at unrhywun sydd ag awydd rhannu teimladau a phrofiadau neu sydd am eistedd a gwrando.  Mentrwch!

 Mae'n siwr mai cymysgwch o deimladau oedd yn nghalonnau Gwyneth a Meurig James ddiwedd Gorffennaf.  Dyma'r cyfnod pan cyrhaeddon nhw eu Penblwydd Priodas Deiamwnt ac yn y cyswllt hwn mae wedi profi i fod yn drigain mlynedd o wasanaeth cariad i'w gilydd ac i fwy nag un cymdeithas.  Prin iawn yw'r cartrefi lle bu cymaint o achos dathlu o fewn cyfnod byr gan i'r ddau annwyl hyn ddathlu hefyd eu penblwydd yn bedwar ugain a deg o fewn misoedd i'w gilydd dros y gaeaf.  Cymylodd gofid ynglyn ag iechyd ychydig ar y dathlu'r tro hwn gan i Gwyneth orfod mynd i'r ysbyty am brofion yn syth wedi'r diwrnod mawr.  Estynnir ein cofion a'n llongyfarchiadau gwresog i ddau sydd yn para i fod â diddordeb brwd ym mhawb a phopeth.
 
Aeth Mrs. Joan Williams am dro annisgwyl i'r ysbyty ddiwedd Gorffennaf - mawr obeithir y caiff llwyr wellhad yn y dyfodol agos.
Mae'n eli i'r galon i weld Mrs.Mair Harries nol yn ein plith yn yr Oedfa unwaith eto.
   Ry'n ni'n danfon ein cofion at Mrs. Eirlys Green sydd ynghanol ei gofid am ei chwaer, Mair, a'i brawd yng nghyfraith a hwythau dan wahanol anhwylderau.
   Mae'n newyddion calonogol i Mrs. Lynwen Pretty i sylweddoli mor bositif mae ei thad yn gwynebu'r salwch sydyn a ddaeth i'w ran. Mae llawer yn cytuno mai dyma hanner y frwydr.
 
Mwy na thebyg mai  Salem Tonteg sydd â'r Gweinidog mwyaf heini yng Nghymru  (ac fe ellid mentro y tu hwnt i'r ffin hefyd) gan ei fod, oherwydd amgylchiadau iechyd dros dro, yn cyflawni ei waith bugeiliol lleol trwy deithio ar ei feic.  Wrth gwrs, rhaid dibynnu ar gyfrwng mwy cyflym i deithio ymhellach a dyna fu'n rhaid iddo ei wneud er mwyn cynrychioli Bedyddwyr De Cymru yng Ngogledd Cymru ac hefyd yn Llanbedr Pont Steffan.  Yn yr olaf cyflwynodd anerchiad ar "Her y tystio"

Gwellhad Buan
Danfonir dymuniadau gorau'r ardal, ac hefyd ei ffrindiau, at Keith Morgan yn ei salwch ac hefyd estynnir ein cofion at y teulu cyfan.  Gwneir yr un peth i Mrs. Miles Richards sydd heb fwynhau'r iechyd gorau ers rhai misoedd bellach.     
 
Arholiad Telyn
Llongyfarchiadau calonnog i Cerian Rowlands ar basio'i harholiad telyn, Gradd 5, ddechrau Gorffennaf a hynny gyda graen i ymfalchio ynddi.  Ardderchog Cerian.
 
Enwogion
Mae'n hyfryd i glywed am bobl o'r ardal hon sy'n boblogaidd iawn mewn ardaloedd eraill yng Nghymru.  'Dyw hyn ddim yn digwydd bob tro wrth gwrs!  Ta waeth cafodd Mr. Dennis John a'i fab, Paul, groeso mawr yng Nghlwb Rygbi Tregaron ganol Gorffennaf ac fe adawson argraff dda unwaith eto - ar eu hail ymweliad - o flaen cynulleidfa niferus.  Llongyfarchir Dennis John hefyd ar gael ei ethol yn Hyfforddwr Clwb Llanharan.
 
Newid Swyddi
Dymuniadau gorau posibl i dri sydd wedi penderfynu ar fenter newydd yn eu bywydau.  Yn gyntaf gobeithir y caiff Rhodri James hwyl fawr ar ei swydd newydd yn Llundain.  Mae Rhodri wedi gweithio ers blynyddoedd bellach gyda Barcud Derwen.  Yna estynnir pob dymuniad da i Isobel, gwraig Rhodri, sydd â chyfrifoldebau newydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Nerys Davies, ar y llaw arall wedi gorffen ei swydd fel athrawes â gofal am y Chweched Flwyddyn yn Ysgol Gyfun Cymer er mwyn medru canolbwyntio mwy ar waith creadigol.  Un cyngor bach iti Nerys, - ceisia gadw'n ddieithr oddiwrth Mr. Colin Williams dros yr Hydref!!

Adre o'r India
Ydy, mae Efa wedi cyrraedd tir Tonteg wedi rhyw bedair wythnos ar y môr ond nid yw'n barod i deithio'r heolydd lleol eto gan nad yw olwynion motor beics India ddim yn dderbyniol yn y wlad hon.  Ni fyddai eu patrwm teithio'n dderbyniol yma hefyd!  Gellir adnabod y motor beic hwn gan fod yr enw - dyfalwch beth - ar ei blaen!
 
Croeso i'r Ardal
Estynnwn groeso i deulu newydd i ardal Meadow Farm. Mae Steve ac Emma Smith a'u dau fab ifanc, Jack a Ben wedi ymgartrefu yn ddiweddar yn Heol Bryn Glas. Athrawes yn Ysgol Evan James yw Emma, a dymunwn pob hapusrwydd iddi hi a'r teulu yn eu cartref newydd.
 
Arholiadau Gitar
Llongyfarchiadau i Andrew Ross, Christopher Birt a Geraint Marc Lewis ar eu llwyddiant yn arholiadau gitar 'Rockschool' yn ddiweddar. Cafodd y tri glod am eu hymdrechion. Mae Andrew a Christopher yn ddisgyblion yn Ysgol Gartholwg a Geraint yn mynychu Ysgol Rhydfelen. Mawr ddiolch i Clark Ellis am eu dysgu.

4

<<Tudalen Blaenorol             

Tudalen Nesaf >>