|
Popio drwy´r nos
Roedd Neuadd y Miwni yn orlawn a'r tenswin yn uchel wrth i'r dorf edrych ymlaen at uchafbwynt cystadleuaeth Popio i bobl ifanc Rhondda Cynon Taf. Daeth chwech drwodd i'r rownd derfynol, tair o ysgol Rhydywaun, dau o Rydfelen ac un o'r Cymer. Cyflwynwyd y noson gan Elen a Rhydian o S4C ac yn dilyn agoriad trawiadol gan y grwp Trysor dechreuodd y cystadlu o ddifri. Roedd rhaid i bob cystadleuydd ganu dwy gân gyferbyniol a chafwyd amrywiaeth o ganeuon gyda cherddoriaeth cefndir a dawnswyr. Ymhlith yr uchafbwyntiau roedd perfformiad Menna o Black Velvet , Jeni o Camau'n Nesau, Jessica o Sut Fedrai i Fyw ac wrth gwrs Alun gyda'i berfformaid ysgubol o Mac y Gyllell. Cafwyd barn y beirniad o'r sofa, Branwen Gwyn a Ieuan Rhys, ac yna cyfle i'r holl gynulleidfa bleidleisio am ei hoff berfformiwr. Yn fuddugol roedd Alun Cowles o Ysgol Rhydfelen sydd yn astudio celf a drama at Lefel A ac yn mwynhau pob eiliad o berfformio. Llongyfarchiadau i griw Cic fu'n trefnu'r noson ac yn arbennig i Angela Gould, Martyn Geraint a Dawn Williams am sicrhau gwledd o dalent ifanc newydd.
|
|