<< Dewisiadau

Tudalen Nesaf >>

Na i'r Consensws


Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn trefnu rali am 2 o'r gloch ar Dachwedd 30ain tu allan i'r Cynulliad Cenedlaethol i ddatgan yn glir i'r  gwleidyddion fod rhaid rhoi dyfodol y Gymraeg a dyfodol ein cymunedau trefol a gwledig ar ben yr agenda o hyn allan.
   Ers ei sefydlu mae consensws cyfforddus wedi datblygu yn y Cynulliad Cenedlaethol fod yr iaith Gymraeg yn saff yn nwylo Llywodraeth Cymru a'i ffrindiau ym Mae Caerdydd. Dyna swm a sylwedd adroddiad yr Arolwg Iaith y bu'r Pwyllgor Diwylliant yn ei gynnal am dros flwyddyn. Ond mae Cymdeithas yr Iaith sy'n brwydro dros ddyfodol y Gymraeg o ddydd i ddydd yn gwybod fod yr iaith Gymraeg a'r cymunedau hynny lle siaredir Cymraeg yn wynebu dyfodol argyfyngus.
   Mae Arolwg Iaith y Cynulliad wedi methu â chydnabod yr angen am Ddeddf Iaith newydd a fyddai yn sicrhau fod gennym yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn perthynas â holl wasnaethau preifat yr oes fodern ac wedi methu cydnabod y galw am Ddeddf Eiddo a fyddai'n diogelu cymunedau drwy   estyn elfen o reolaeth gymunedol dros y farchnad dai breifat.
   Mynnwch ddyfodol i'r iaith Gymraeg drwy ymuno yn y rali ar Dachwedd 30ain am 2 o'r gloch.

Yr Athro Hywel Teifi Edwards gyda Allan James

Cafwyd noson arbennig yn yr Hen Dþ, Llangynwyd, i lansio llyfr newydd Allan James, Llantrisant. Mae Allan yn enedigol o Faesteg a daeth torf i lenwi lolfa'r dafarn i wrando ar Allan yn cyflwyno ei lyfr a sylwadau crafog Hywel Teifi ar bawb a phopeth.
   Aredig gydag ychen, canlyn y Fari Lwyd, hela'r dryw, bragu cwrw bach: dyma rai o arferion gwerin hen sir Forgannwg sy'n cael sylw yn y gyfrol 'Diwylliant Gwerin Morgannwg' gan Allan James.
   Cyfres o ddarluniau a gyflwynir yma, sy'n croniclo agweddau ar hanes ardal arbennig ar adeg arbennig. Cawn ddarlun o gymdeithas amaethyddol sydd wedi hen ddiflannu bellach, ond y bu ei gweithgareddau, ei hiaith a'i chymeriadau o ddiddordeb i gofnodwyr a chroniclwyr cydwybodol a oedd yn awyddus i goffau'r hyn a fu cyn iddo ddadfeilio. Trwy hyn llwyddwyd i ddiogelu etifeddiaeth a fyddai wedi mynd yn angof llwyr oni bai am eu gweledigaeth a'u hymroddiad.
   Er mai ar Fro Morgannwg y mae prif sylw'r gyfrol hon, y gobaith yw y bydd disgrifio natur diwylliant gwerin yr ardal honno yn egluro natur y prosesau a fu'n llywio cymeriad cymunedau tebyg eraill ledled Cymru.
   Daw Allan James o Faesteg, ond ymgartrefodd bellach yn Llantrisant. Mae'n Brif Ddarlithydd y Gymraeg ym Mhrifysgol Morgannwg, ger Pontypridd, lle y mae'n cyfuno ei ddiddordeb mewn iaith, addysg Gymraeg, a diwylliant ei fro.
Cyhoeddwyr: Gwasg Gomer, Llandysul, Ceredigion £12.95

Y GYMRAEG AR WEFAN BT

Mae BT wedi lansio opsiwn Cymraeg ar ei wefan poblogaidd www.bt.com. Mae'n cynnwys cyfeiriadur rhifau ffôn Cymraeg a safle Ffrindiau a Theulu.

17eg Gwyl Ddrama Tafod Elái 2002
Neuadd Dowlais, Llanilltud Faerdref
20--22 Tachwedd 2002
am 7 bob nos.
Ymunwch yn yr hwyl
Dawns, Drama Un Act, Noson Lawen, Cân, Pantomeim, Rifiw, Comedi.
Manylion pellach: 01443 402867

Tudalen Nesaf >>