Swyddog Newydd Twf
i'r De-Ddwyrain


Oni bai eich bod chi wedi dod ar draws Twf yn yr Eisteddfod neu'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, fyddwn i'n synnu dim petasech chi heb glywed am Twf, gan nad yw cynllun Twf wedi cyrraedd y rhan yma o Gymru . . tan nawr.
   Nod Twf yw hyrwyddo'r Gymraeg ar yr aelwyd. Gwaith Twf yw rhoi gwybodaeth i rieni am werth dwyieithrwydd i'w plant, a cheisio annog y rhieni sy'n gallu siarad Cymraeg i ddefnyddio'r Gymraeg gyda'u plant.
   Erbyn hyn mae gan Twf swyddog i weithio dros dro yn y De-Ddwyrain. Penodwyd Danny Grehan i ddechrau ar y gwaith o godi ymwybyddiaeth, ac i hyrwyddo gwaith Twf yn yr ardal.
   Dros y tri mis nesaf bydd yn mynd ati i greu cysylltiadau gyda mudiadau lleol er mwyn rhoi sylfaen i waith Twf yn y dyfodol. Ar y cyd gyda phartneriaid eraill, bydd yn trefnu digwyddiadau ar gyfer rhieni, a darpar rieni fydd yn rhoi gwybod iddynt am fateision aelwydydd dwy-ieithog.
   Os hoffech chi wybodaeth am Twf, neu yn nabod rhywun arall a all fanteisio o gael gwybodaeth am fendithion magu plant yn ddwy-ieithog yna cysylltwch â Danny ar 01443 671577, 07881 607723 neu ebostiwch at danny@alltwen33.freeserve.co.uk.

Alex Vlahos yn derbyn Tlws Cwmni Gorau'r Ðyl Ddrama
oddi wrth Huw Garmon, y Beirniad

GWYL DDRAMA


Efallai nad oedd cymaint o  gwmniau yng Ngðyl Ddrama Tafod Elái eleni ond cafwyd perfformiadau ardderchog gan ddisgyblion ysgolion Cymraeg yr ardal. Yn wir, dywedodd y beirniad, Huw Garmon, ei fod yn falch iawn o weld y twf sylweddol yn y nifer o ysgolion cyfun Cymraeg yn Ne Cymru.
   Diolch i bawb a gyfrannodd i'r Ðyl ac yn arbennig i Colin Williams am ei threfnu.

DEFNYDDIA DY GYMRAEG YN 2003
Biliau Trydan, Nwy, Dër, Ffôn, Cyngor Lleol, Swyddfa'r Post, Banciau, Chwilio am Waith
Hawlio Budd-dâl, Treth Incwm
Wrth ddefnyddio'r gwasanaethau hyn gallwch ddefnyddio'r iaith Gymraeg.
Cymerwch fantais  o bob cyfle.
Gwybodaeth: 0845 6076070

<< Tudalen Dewis

Tudalen Nesaf >>