CODI ARIAN Mae Miss Amanda Williams fel pennaeth adran ABCh yr ysgol wedi trefnu fod disgyblion yn y gwahanol flynyddoedd yn eu tro yn codi arian i nifer o elusennau. Cychwynnodd Bl7 a Bl12 hyn drwy dalu am gael gwisgo jeans ar ddiwrnod Jeans for Genes ym mis Medi. Codwyd £189. Yn fuan wedyn cafodd Bl9 gyfle i wisgo dillad denim ar ddiwrnod Denim for Diabetes a chodwyd £169. Mae Bl10 wedi dilyn nawr gan wisgo gwisg anffurfiol a thalu tuag at gronfa Achub y Plant. Codwyd £144.75 i'r rhain ac fe roddwyd y siec i gynrychiolydd yr elusen mewn gwasanaeth gyda'r flwyddyn gyfan. Fe fydd blynyddoedd 8 ac 11 yn cael diwrnod codi arian ac un o'r elusennau fydd yn elwa yw UNICEF. Ar ddydd Gwener Plant Mewn Angen codwyd £759.46 gan yr ysgol gyda gwisg anffurfiol, bore coffi a nifer o achosion noddi drwy'r ysgol.
Siwan Hill
Gwisg Anffurfiol--am ddiwrnod
Tystysgrif Tþ Hafan
PONTYPRIDD
Gohebydd Lleol: Jayne Rees
Siec i Gronfa Achub y Plant
Llongyfarchiadau. Mae Siân Jones, Maes y Coed wedi dyweddïo â Richard Lewis o Don Pentre. Dymuniadau gorau i'r ddau ohonoch. CLWB Y BONT. Dosbarthiadau Gwersi Sgwrsio Ffrangeg. Beth bynnag eich gallu-bob nos Fawrth. Cysylltwch a Jayne James. 662630.
Noson Jazz olaf cyn y Nadolig-4/12/2002. Gweithdy ar gyfer cerddorion profiadol neu newydd. 7.30-8.30. Sesiwn "jamio" o 9.00 ymlaen.
Parti Nadolig y Clwb - 20/12/2002. Dewch yn llu! Twmpath a chanu gyda Bois y Côr.
Gig gan y grwp Wonderbrass -6/12/2002. £3.00 wrth y drws.
"Just about Williams" - grwp "tribute" Robbie Williams.-14/12/2002.
SWYNGWSG. Grwp gwerin sy'n cwrdd yn wythnosol yng Nghlwb y Bont - am ehangu swn cerddorol--yn chwilio am rywun sy'n gallu chwarae drymiau/ offerynnau taro. Cysylltwch â Geraint Tomos - 01443 406244 neu 07879425658
Dyfal Donc........ Llongyfarchiadau i Janine Payne o Drefforest a ddaeth yn ail yn ddiweddar mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan Slimming World.Derbyniodd Janine siec am £2000 yn Birmingham am ei hymdrech ffantastig o golli dros 7stôn yn ystod y deunaw mis diwethaf!!! Mae Janine yn dysgu yn yr Adran Gymraeg yn Ysgol Gyfun Aberpennar ac yn fam i Brython, Ioan a Rhydian. Ymddangosodd luniau "cyn" ac "ar ôl" ohoni yn un o bapurau dyddiol Prydain. Mae hi'n dipyn o ysbrydoliaeth i unrhyw un fydd eisiau colli pwysau ar ôl y Nadolig!!
Croeso. Mae selogion Clwb y Bont, Glenys ac Anthony Evans, yn famgu a thadcu unwaith eto. Ganwyd Teifi Rhys i Medi a John, Caerdydd ar Dachwedd y deunawfed. Mae Twm wrth ei fodd â'i frawd bach newydd.
Ysgol Feithrin Sardis. Bydd Cyngerdd Nadolig Ysgol Feithrin Sardis yn cael ei gynnal bore Iau, Rhagfyr 12fed. Pris mynediad fydd £1.50. Croeso i bawb. Am fwy o wybodaeth am yr Ysgol Feithrin neu'r Cylch Ti a Fi yn Sardis cysylltwch a Glynwen Blewett 07974803609.
DRAMA GERDD
Annwyl Olygydd Carem fanteisio ar y cyfle hwn i dynnu sylw darllenwyr eich papur at ddrama gerdd a berfformir yn Ysgol Gyfun Llanhari y mis nesaf. Bydd disgyblion yr Ysgol yn cyflwyno tri pherfformiad o Hen Wlad Fy Nhadau gan Gareth F. Williams a Geraint Cynan yn neuadd yr ysgol rhwng nos Fawrth l7eg Rhagfyr a nos Iau l9eg Rhagfyr. Cawn rannu profiadau trigolion Cwm Gwalia wrth iddynt wynebu cyfnodau llewyrchus a thrychinebus yn eu hanes yn y sioe gyffrous hon sy'n wledd i'r glust a'r llygad ac sy'n goglais y meddwl. Cysylltwch â'r ysgol i sicrhau tocynnau ac i gael manylion pellach - 01443 237824/5/6. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Lanhari i fwynhau gyda ni.