<< Dewisiadau

Tudalen Nesaf >>

SWYDDI NEWYDD I LANTRISANT


Daeth newyddion da am dros 200 o swyddi i Lantrisant wrth i gwmni Oshkosh Truck o Wisconsin yr Unol Daleithiau gyhoeddi datblygiad yng ngwaith Geesink Norba yn Ynysmaerdy sy'n cynhyrchu loriau sbwriel. Mae'r cwmni wedi derbyn cytundeb gan Adran Amddiffyn y Llywodraeth i gynhyrchu tanceri olew a dwr a chludwyr tanciau. Dros y deng mlynedd nesaf disgwylir i weithlu y cwmni yn Ynysmaerdy gynyddu o'r 180 presennol i dros 1000.

DATHLU Y DEUGAIN MLYNEDD CYNTAF

Y Prifathro, Mr Brian James, yn edrych ar Mr a Mrs Gwilym Humphreys yn torri cacen y dathlu,

Fel uchafbwynt i ddathliadau deugain mlynedd Ysgol Gyfun Rhydfelen cynhaliwyd cyngerdd gan gyn-ddisgyblion a disgyblion presennol yr ysgol ym Mhrifysgol Morgannwg ym mis Rhagfyr. Cafwyd eitemau yn cynrychioli pedwar degawd yr ysgol ac araith

bwrpasol gan y Prifathro Cyntaf, Mr Gwilym Humphreys.
    Dymunwn ymddeoliad hapus i Mr Bryan James a fu'n brifathro dros y naw mlynedd diwethaf ac a weithiodd yn ddi-flinio i sicrhau safle newydd i'r ysgol

Un o loriau sbwriel
Geesink Norba

Gwywedig oedd y goeden--yn y cwm,
           ond caed o'r un fesen
      yn y pridd wrth fôn y pren
      dwf eilwaith yn Rhydfelen

Emyr Lewis
Rhagfyr 2002

Mr Brian James y prifathro diwethaf, Mr Gwilym Humphreys, y prifathro cyntaf a Mr Peter Griffiths y prifathro newydd.

<< Dewisiadau

Tudalen Nesaf >>