Daeth canlyniad Cyfrifiad 2001 ā newyddion calonogol am ddyfodol yr iaith yn yr ardal gyda'r canran o siaradwyr Cymraeg yn Rhondda Cynon Taf yn codi o 9% yn 1991 i 12.3% yn 2001. Mae'n amlwg fod gwaith ac ymdrech yr ysgolion Cymraeg a chefnogaeth y boblogaeth i ddyfodol yr iaith yn dangos yn yr ystadegau.
Ond mae angen llawer iawn mwy o gefnogaeth i sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn parhau i ffynnu. Mae'n arwyddocaol nad oes un ysgol Gymraeg newydd wedi agor yn Nhaf Elįi dros y deng mlynedd diwethaf. Mae gwir angen i'r Cyngor Sir wireddu ei addewidion i gefnogi'r iaith drwy greu cyfleoedd ychwanegol i ddysgu'r Gymraeg ac i ddefnyddio'r iaith yn y gweithle ac wrth gymdeithasu.
CADW PONTYPRIDD YN DACLUS
Colin Gregory, Keith Sargent, Islwyn Wilkins, Maer Rhondda Cynon Taf, ac Alison Bowden
gyda Sue Essex, Gweinidog Amgylchedd y Cynulliad
Mewn seremoni yng Nghastell Caerdydd ar 27 Ionawr cyflwynwyd Gwobr Cymru Daclus 2002 i Gršp Gweithredu Coedpenmaen. Roedd y gršp wedi curo 60 o gršpiau tebyg o bob rhan o Gymru i ennill y tlws a'r tystysgrif a chefnogaeth ariannol i wella amglylchedd yr ardal.
Nod Gršp Coedpenmaen yw ymladd yn erbyn agweddau yn y gymuned sydd yn caniatau i bobl ollwng ysbwriel heb ystyried yr amgylchedd.
Bu'r gršp yn ymweld ā'r ysgol leol a gyda chefnogaeth y Pennaeth, Mrs Alison Bowden, rhoddwyd gwybodaeth i'r plant am y problemau mae ysbwriel yn achosi. Cychwynwyd sustem ail-gylchu
caniau alwminiwm gyda chymorth Cymdeithas Rheilffordd Rhondda Cynon a bu'r gršp yn casglu sbwriel yn gyson o ochr y ffyrdd prysur yn yr ardal.
Dyma'r pedwerydd tro i gršp o Rhondda Cynon Taf ennill y wobr bwysig hon yn ystod y deuddeng mlynedd diwethaf ac mae'n dangos ymroddiad pobl leol i wella eu hamgylchfyd. Eu nod nawr yw lleihau y defnydd o bapur pacio di-anghenrhaid a dylanwadu ar y llu o bobl sydd ddim yn meddwl cyn taflu ysbwriel allan o'i ceir.
Llongyfarchiadau i Gršp Coedpenmaen. Mae nhw'n esiampl i ni i gyd.
BEIRDD IFANC
Eleni daeth 548 o gerddi i gystadleuaeth Iolo Morganwg Tafod Elįi i feirdd ysgolion cyfun yr ardal. Tasg enfawr i'r beirniad, Llion Roberts oedd cloriannu'r cynnyrch a diolch arbennig iddo am ei feirniadaeth drwyadl ac adeiladol. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd rhan a diolch i'r athrawon am roi cyfle i'n beirdd ifanc ddisgleirio. Diolch hefyd i Rhys Dafis am drefnu'r cyfle hwn i ddatblygu doniau y dyfodol.