<< Tudalen Blaenorol

Tafod Elái Mawrth 2003

Tudalen Nesaf >>

YR HYBARCH  WILLIAM  EVANS TONYREFAIL.


Yn  hanes Dadgorffori Capel Y Ton yn rhifyn diwethaf Tafod Elái soniais am y gðr hynod sef yr Hybarch William Evans Tonyrefail. Dechreuaf drwy olrhain ei deulu eu dadcu  Evan David  a'i dad  David Evans rhai a fu yn gefnogol a chymorth  i William Evans.

   Daeth William Evans yn un o bregethwyr mwyaf yr hen Gorff bron gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac amaethu hefyd. Mae yn fendith fawr i mi fy mod wedi cael llyfr Cofiant Parchedig William Evans a ysgrifennwyd gan ei ðyr  William Evans M.A. o Brifysgol Glasgow yn 1892.

   Ganwyd y Parchedig William Evans Tonyrefail ar un o ddyddiau olaf Mis Ebrill 1795 does ddim sicrwydd o'r dyddiad cywir. Yn ffermdy Garthgraban Fach  ym mhlwyf Llantrisant Swydd Forgannwg  mab ieuengaf  yr ieuengaf ond un o blant David ag Elizabeth Evans o'r lle hwn.

   Roedd David Evans yn fab i Evan David  o'r Rhagat tyddyn bychan sydd yn sefyll  i'r chwith o'r ffordd o Bont Y Pridd i Donyrefail drwy Bencoedcae, ac o fewn i hanner milltir i Blasdu Treferig, ar lan yr afon Mychydd. Roedd Evan David yn dilyn y Grefft wniedydd ag yn ðr deallus a chrefyddol ac yn mynychu y Capel Bach Tonyrefail.  Saif y lle hyd heddiw, man lle cwrdd y Scowtied erbyn hyn. Cangen o Eglwys Llantrisant oedd y Capel Bach.  Fe'i codwyd ar gyfer y rhan uchaf o blwyf Llantrisant. Yn agos i Rhagat yr oedd yna gapel bychan yn perthyn  i'r Cyfeillion  Crynwyr neu fel eu gelwyd gan rai  "Quakers" a safai hwn hefyd ar lan y Mychydd. Mae yn debyg fod Evan David wedi mynychu'r oedfaon yno yn achlysurol.

  Roedd gan Evan David dri o feibion  a dwy ferch ac un o'r meibion oedd David Evan a gymrodd enw cyntaf ei dad fel yr oedd yn draddodiadol  yng Nghymru yn y cyfnod  hynny, ganwyd ef yn y flwyddyn 1757. Pan yn fachgen danfonwyd ef i un o ysgolion Rhad Cylchynol y Parchedig Griffith Jones Llanddowror a gynhaliwyd yn Castellau a daeth i fedru darllen ag ysgrifennu yn dda ag astudio'r Beibl yn drwyadl. Mae'n debyg iddo yntau fynychu'r cyfarfodydd yng nghapel y Cyfeillion, ond ymuno wnaeth â'r achos

i'r teulu ar eu hôl. Yr hynaf oedd Mary a briododd â Richard Morgan. Magwyd deuddeg o blant, yr ail oedd David a phump o feibion. Ðyr iddo oedd yr Henadur David Evans, Arglwydd Faer Llundain 1881-1882, Thomas yn briod a Barbara wyth o feibion a dwy ferch, Richard a'i briod deg o blant, Susanah briod a Morgan Morgan ganwyd iddynt ddeg o blant, Evan wyth o blant, William gwrthrych yr hanes hyn ar ieuengaf Margaret briod a Thomas Williams o Sir Frycheiniog a chafwyd deg o blant. Bu hi yn gymorth i olrhain yr hanes hyn roedd ganddi gof rhagorol.

Bu farw Mrs Elisabeth  Evans yn 1822 a bu farw David  Evans yn1834 yn 77oed, roedd yn ddall yr wyth mlynedd ola o'i fywyd. Eithr os collodd ei olwg ni chollodd dim o'i graffter; nid oedd dim yn cael dianc heb ei fod yn mynnu ei wybod. Fel y gweler roedd y teulu ar achau wedi tyfu'n enfawr dywedir fod deg a thri ugain o wyrod ag wyresau ag orwyron ag orwyresau yn ei angladd. 

   Fe ddaliodd cyfeillgarwch annatod rhwng teulu Garthgraban a theulu Collena hyd y diwedd. Tipyn o hanes William Evans fydd yn y dyfodol.

Fethodistiaeth a oedd yn cwrdd ym mhlasdy y Collena Tonyrefail a daeth yn uchel ei barch gan deulu'r Prichards a oedd yn byw yno, y rhain  a oedd wedi croesawu dechrau  achos y Methodistiaid yn Nhonyrefail i'w cartref yn Collenna ac yn wir rhoi tir i adeiladu Capel ar y Ton yn ddiweddarach.

  Roedd yna ferch mewn gwasanaeth yn Collena Elisabeth Morgan, merch oedd i  Richard Morgan y Rhiw. Mae'n debyg i lygad mab y Rhagat syrthio arni, gyda boddlonrwydd y feistres o Collena, ar y 6ed o Ebrill 1777 fei  priodwyd. Ar ôl priodi aethant i fyw i felin Treferig am gyfnod byr ac yna ymsefydlu yn Garthgraban Fach  "Scrapan" fel ei gelwyd ar lafar gwlad. Saif Garthgraban ar lecyn uchel uwch ben Coedlai rhwng yr afon Elai ar Mychedd. Mae'r ddwy afon yn uno yn agos  i'r Ysbyty newydd yn Ynysmardy.

   Ganwyd i David ag Elisabeth Evans ddeuddeg o blant. Bu farw pedwar ohonynt  yn ieuanc sef Richard ar Fawrth 15fed 1787 yn dair mlwydd oed , Richard eto Gorffennaf 5ed 1788 yn naw mis oed, Evan Gorffennaf yr 2ail 1789 yn dair oed a Alice Medi 9fed 1798yn 13eg oed. Roedd yn golled fawr 

Tonyrefail yn 1890'au

Fferm
Garthgraban

4

<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>