|
Penblwydd Llongyfarchiadau arbennig i D.J., ein gohebydd yn Nhonyrefail, ar groesi carreg filltir arall. Mae ei gyfraniad i fywyd Cymraeg yr ardal dros y blynyddoedd wedi bod yn sylweddol a hir y parhaed.
DATHLU CANMLWYDDIANT EGLWYS DEWI SANT TONYREFAIL 1903--2003
Mae aelodau Eglwys Dewi Sant Tonyrefail yn dathlu canmlwyddiant adeiladu yr Eglwys bresennol, ac mae yna lawer o ddathliadau yw cynal yn ystod y flwyddyn. Ar y 23ain o Ionawr cynhaliwyd cyngerdd gan gôr merched Trefyrug o dan arweiniad Mrs Rosemary Ashman. Hi hefyd yw organyddes yr eglwys. Ar y 12fed o Fis Mawrth cafwyd cyngerdd gan Gôr Meibion Cwm Rhondda pryd y cafwyd datganiad o eitemau Cymraeg a Saesneg ag wrth gwrs "CWM RHONDDA" i ddechrau. Mae yna eglwys arall rwyf wedi cyfeirio ati yn hanes William Evans sef y Capel Bach a adeiladwyd fel cangen i Eglwys Llantrisant ag yn ddiweddarach fe'i enwyd yn Sant Ioan Fedyddwyr. Hyd at y saithdegau cynhaliwyd gwasanaethau Cymraeg yn y Capel Bach a Saesneg yn yr eglwys newydd. Daeth ei hangen i ben yn y saithdegau a gwerthwyd yr adeilad ag erbyn hyn mae yn fan cyfarfod Sgowtiaid. Mae yna gofeb iddi yn eglwys Dewi Sant fel y gweler yn y llun.Pob bendith iddynt yn y dathlu bydd mwy am hyn eto.
|