Ar ddiwedd wythnos brysur o ddawnsio daeth newyddion ardderchog i Ddawnswyr Nantgarw eu bod wedi ennill yr ail wobr yng Nghystadleuaeth Dawnsio Gwerin Rhyngwladol Palma de Mallorca. Roedd 47 o grwpiau dawnsio gwerin o bob rhan o'r byd wedi dod i'r ynys ar gyfer y ddegfed ðyl a gynhelir yn ystod wythnos y Pasg bob dwy flynedd. Yn ogystal â pherfformio o flaen panel o feirniaid rhyngwladol roedd rhaid i'r dawnswyr ddangos eu dawn yn denu aelodau o'r cyhoedd i gymeryd rhan yn y dawnsio mewn cyfres o arddangosfeydd ar hyd a lled yr ynys. Cafwyd croeso arbennig gan y bobl leol a bu'n wythnos i'w chofio i'r tîm o ugain o ddawnswyr a'r offerynwyr. Daeth grðp o Bortiwgal yn gyntaf a dawswyr o Romania yn drydydd ond roedd dod yn ail yn y gystadleuaeth arbennig hon yn glod mawr i Ddawnswyr Nantgarw ac i'w hyfforddwyr Eirlys Britton a Cliff Jones.
Dawnswyr Nantgarw yn un o bentrefi'r ynys
DIM NEWID YM MHONTYPRIDD
Os oeddech wedi eich plesio neu ddim wedi eich plesio gan ganlyniadau Etholiad '03 y Cynulliad yna mae'n siwr fod pawb yn cytuno fod gan y Cynulliad waith pwysig i'w wneud yn arwain a llywodraethu Cymru. Er fod llawer yn dweud fod y pedair blynedd cyntaf wedi bod yn aflwyddiannus yn araf bach mae'r Cynulliad yn dod yn fwy perthnasol i fywyd bob un ohonom. Ymhlith y tasgau sy'n wynebu'r aelodau yw sicrhau fod y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru yn troi o fod yn un Prydeinig i fod yn Wasanaeth Cymreig sy'n gallu deall a datrys ein problemau. Dymunwn yn dda i Jane Davidson A.C. Pontypridd a hefyd i Leanne Wood A.C., yr aelod newydd sy'n cynrychioli'r ardal hon ar y rhestr rhanbarthol.
Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru
Merched Nantgarw gyda rhai o'r cystadleuwyr eraill
TAWE, NEDD AC AFAN 26-31 MAI Parc Gwledig Margam
Gwledd o gystadlu a môr o hwyl i'r teulu oll, gyda phopeth yn hwylus ar yr un safle--y maes, y rhagbrofion, y maes parcio a'r maes carafannau. Cyffordd 37 neu 38 oddi ar yr M4 a dilynwch yr arwyddion.