Cân Actol llwyddiannus Ysgol Rhydfelen yn Eisteddfod yr Urdd

Crafu byw, allan o'r golwg

Mae tair ward yn Nhaf Elái ymhlith y tri deg ward etholaethol yng Nghymru gyda'r gyfran fwyaf o bobl dros 75 oed yn byw ar fudd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm.  Yn ôl  ymchwil newydd gynhwysfawr sy'n tynnu sylw at yr ardaloedd yng Nghymru lle mae pobl hþn o dan anfantais fwyaf  y tair ward yw Canol Rydfelen/Ilan, Tyn-y-nant a Gilfach Goch.    Lansiwyd yr ymchwil `Mae pobl hþn yn cyfrif - Indecs Incwm Help the Aged i bobl hþn yn Lloegr a Chymru 2003' fel rhan o'i ymgyrch `Dileu Tlodi Pensiynwyr Nawr'.
   Mae'r Elusen yn galw ar y Cynulliad newydd i brofi ei ymrwymiad i fynd i'r afael a thlodi ac allgau cymdeithasol ymhlith pobl hþn a gwella cyflwr byw pensiynwyr tlotaf Cymru. Er nad yw Diogelwch Cymdeithasol wedi ei ddatganoli, mae'n ddyletswydd ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i godi

pensiwn ymddeol y wlad i lefel a fydd yn atal tlodi ymhlith pensiynwyr yng Nghymru ac yn eu harbed rhag cael prawf moddion. Dylai'r Cynulliad weithredu rhaglen genedlaethol gynhwysfawr i gynyddu'r nifer o bobl hþn sy'n gwneud cais am fudd-daliadau.

<< Tudalen Blenorol

Tudalen Nesaf >>