ADFYWIO BROYDD


Mae Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf wedi cychwyn ar gyfres o gyfarfodydd i greu Partneriaeth Adfywio ym mhob ardal yn y Sir. Mae 12 o Bartneriaethau Bro ar fin cael eu sefydlu ar draws y Sir, a byddant yn fodd o gyfleu a hyrwyddo anghenion a phryderon y cymunedau, ac i ddatblygu cynlluniau ar eu cyfer.
   Bydd y Partneriaethau yn cynnig cyfle cyffrous i'r cyngor ac asiantaethau cyhoeddus eraill (megis Iechyd a'r Heddlu), sefydliadau gwirfoddol a busnesau i weithio gyda'i gilydd er mwyn cyflawni gwelliannau parhaus i fywydau pobl sy'n byw ac yn gweithio yn y cylch.
  Cynhaliwyd cyfarfod yn ddiweddar gyda chynrychiolwyr o fudiadau Cymraeg yr ardal a bydd cyfarfod yng Nghanolfan Crownhill, Llanilltud Faerdref am 6yh ar 9 Gorffennaf i'r ardal sy'n ymestyn o Beddau i Donteg.
   Cyhoeddwyd dogfen gan y Cyngor, 'Bywyd Gwell' sy'n egluro mwy am ddatblygu Cynllun Cymunedau ar gyfer y sir.
   Mae angen i Gymry Cymraeg yr ardal ymateb i'r cynllun newydd hwn a sicrhau fod yr iaith yn cael lle teilwng yn nyfodol yr ardal.
   Am wybodaeth pellach ffoniwch Chris Ashman ar 01443 424064.

SICRHAU FFINIAU LLANTRISANT

Roedd tref hynafol Llantrisant dan ei sang ar ddydd Sadwrn, 7 Mehefin ar gyfer seremoni oedd wedi cael ei sefydlu yn 14eg canrif. Mae seremoni Cerdded y Ffiniau yn deillio o siarter a gyflwynwyd i bobl tref Llantrisant yn 1346 a bob saith mlynedd mae Rhyddfreinwyr y dref  yn cerdded ffiniau hen Fwrdeistref Llantrisant i ddathlu eu hawliau.
   Daeth miloedd eleni i cymryd rhan yn y dathliadau a llwyddodd rhai cannoedd i gwblhau y daith gerdded saith milltir o Lantrisant drwy Cross Inn, draw at y Bathdy yn Ynysmaerdy, i lawr am Donysguboriau ac yn ôl i Lantrisant.
  Ar hyd y ffordd mae cerrig yn dynodi'r ffîn ac yn ôl y traddodiad roedd rhaid i fechgyn ifanc sy'n feibion i'r Rhyddfreinwyr presennol gael eu bympio ar eu pen-olau i'w hatgoffa am yr hawliau maent wedi eu hetifeddu. Roedd y cyntaf o'r cerrig hyn yng ngardd "Bumping Stone Cottage" yn Cross Inn.

Tudalen Nesaf >>