Dadansoddi Ffigurau Cyfrifiad 2001


Ym mis Gorffennaf cyhoeddwyd rhagor o wybodaeth a ffigurau o'r Cyfrifiad. Y newyddion da yn yr ardal hon yw fod y canran o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg wedi cynyddu o 7.4% yn 1981 i 9.7% yn 1991 ac yna naid i 14% yn 2001.
   Mae'n amlwg fod Addysg Gymraeg wedi cael dylanwad sylweddol ar y cynnydd ac mae'r clod pennaf i rieni fu'n brwydro i gael ysgolion Cymraeg ac i'r athrawon fu'n sicrhau fod yr addysg o'r radd flaenaf.
   O edrych yn fwy manwl ar y ffigurau fe welir fod y canran yn amrywio o 20% ym Mhontypridd i 9% yng Ngilfach Goch a'r hyn sydd wedi digwydd yw fod y ganran yn yr ardaloedd ble roedd llai yn siarad Cymraeg yn 1991 wedi codi yn sylweddol tra fod yr ardaloedd oedd o gwmpas 16 - 20% yn 1991 - Pentyrch, Creigiau, Pontypridd a Ffynnon Taf wedi aros heb fawr o gynnydd.
   Y gamp dros y ddeng mlynedd nesaf yw codi'r ganran o siaradwyr Cymraeg i dros 20% ar draws Taf Elái.
   Yn ogystal mae angen cynyddu'r nifer o swyddi ble mae'r Gymraeg yn angenrheidiol i sicrhau fod yr iaith yn datblygu ym mhob maes yn yr ardal..

Ysgol Newydd Sbon i Lantrisant

Mrs Sue Preece (Prifathrawes Ysgol Gynradd Gymraeg Llantrisant) gyda disglybion, Cyng Rebecca Winter, Cyngh Jonathan Huish a Mrs Sue Haynes (Cadeirydd Cymdeithas Trigolion Lleol) ar safle'r ysgol newydd

Mae'r cynlluniau ar gyfer codi ysgol gynradd Gymraeg newydd yng Nghefn yr Hendy yn bwrw yn eu blaen yn dda.
   Yn sgîl y newyddion bod caniatâd cynllunio llawn wedi'i roi, bydd y gwaith adeiladu yn dechrau hwyrach eleni. Bydd yr adeilad newydd yn cymryd lle hen adeilad Ysgol Gynradd Gymraeg Llantrisant ac o ganlyniad, bydd cynnydd sylweddol yn nifer y lleoedd a fydd ar gael. Dim ond yn ddiweddar y cafodd y safle ar gyfer yr ysgol newydd, a glustnodwyd nôl ar ddechrau'r cynllun ar gyfer ystad dai, ei drosglwyddo i ddwylo Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf o ddwylo Awdurdod Datblygu Cymru.
   Y gobaith yw bydd yr ysgol newydd, â lle ynddi i 360 o ddisgyblion, gan gynnwys dosbarth meithrin, yn barod erbyn mis Ionawr 2005.
   Galwch heibio i wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf - www.rhondda-cynon-taf.gov.uk

Rheoli'r Planedau

Ym mhabell Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol gwelwyd y fodel fwyaf o'r sustem solar a adeiladwyd erioed yng Nghymru. Gwaith Dr Guto Roberts o Lantrisant oedd y sustem enfawr oedd yn troi uwchben ymwelwyr â'r babell.


Archebwch
Tafod Elái
am y flwyddyn nesaf
dim ond    £6
gwerth pob ceiniog

Tudalen Nesaf >>