|
Fel aelod o garfan tîm rygbi ysgolion Caerdydd, bum yn ddigon ffodus i gael mynd ar daith rygbi i Dde Affrig yn ystod yr haf. Taith i ddathlu can-mlwyddiant y garfan oedd hon, ac roedd hi wir yn daith gofiadwy. Aethpwyd â dau dîm allan yno. Enillodd yr ail dîm dair gêm allan o bump ac enillodd y tîm cyntaf un o'u pump gêm. Cawsom brofiadau diddorol dros ben - mynd ar saffari gyda'r nos, ar noson oer iawn! Gwelsom lawer o fywyd gwyllt, yn llewod ac eliffantod, jiraffs a mwy. Gwelsom gêm rygbi rhyngwladol rhwng De Affrig a Seland Newydd a phrofi awyrgylch arbennig iawn yno. Buom yn Sun City, buom hefyd i ben Table Mountain ac o'r copa cawsom olygfeydd gwych o Johannesburg a Robben Island. Fe deithion ni i Robben Island a chael ein tywys o gwmpas y carchar lle y bu Nelson Mandela yn gaeth cyhyd. Ymwelon â'r union gell lle y bu'n garcharor. Taith i'w chofio, profiadau i'w trysori.
Gethin Davies Creigiau
|
|