<< Tudalen Blaenorol

Tafod Elái Hydref 2003

Tudalen Nesaf >>

EFAIL ISAF

Gohebydd Lleol:
Loreen Williams


Swydd Newydd
Dymunwn yn dda i Lyn West, Nantcelyn yn ei swydd newydd. Bydd Lyn yn arwain prosiect cyffrous am dair blynedd yn yr Ysgolion Cymraeg sy'n bwydo Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Prosiect fydd hwn i gyflwyno'r iaith Ffrangeg i blant Blwyddyn pedwar yn yr wyth ysgol gynradd Gymraeg yng Nghwm Rhymni,

Newid Byd
Dymunwn yn dda i dri o ffrindiau o Nant y Felin sydd newydd adael cartref i ddechrau ar Gyrsiau Coleg. Mae Dylan Hughes wedi mynd i Goleg Y Brifysgol Abertawe i astudio Mathemateg ac mae Rhydian West ym Mhrifysgol Nottingham yn astudio Meicro Bioleg. Drama, sydd wedi mynd a bryd Geraint Hardy ac mae wedi mynd i'r Coleg Drama yn Lerpwl a sefydlwyd gan Paul McCartney. Pob hwyl i'r tri ohonoch.

TGAU
Llongyfarchiadau gwresog i Ffion Rees, Penywaun a lwyddodd mewn deuddeg pwnc yn yr arholiad TGAU eleni. Mae erbyn hyn yn astudio Cymraeg, Hanes, Addysg Grefyddol a'r Cyfryngau yn y Chweched Dosbarth yn Ysgol Gyfun Rhydfelen.

TABERNACL
Cydymdeimlo
Cydymdeimlwn â dwy o'n haelodau sydd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar. Cydymdeimlwn â Ros Evans, Rhydlafar ar golli ei phriod, Yr Athro Glyn Evans yn ystod Mis Awst.
   Estynnwn ein cydymdeimlad a Margaret White a'r teulu ar golli ei mam ddechrau Medi a hynny fisoedd yn unig ar ôl marwolaeth ei thad.
   Cydymdeimlwn â'r ddau deulu yn eu hiraeth a'u galar.

Dathlu Priodas Aur
Llongyfarchiadau gwresog i Barbara a Trevor Griffiths 7 Heol y Ffynnon a oedd yn dathlu eu priodas aur ar Ddydd Gwener Medi 19ed. Roedd eu merch, Ann, yn un o'r disgyblion cyntaf yn Ysgol Gymraeg Garth Olwg ac mae hithau bellach yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i addysg ddwyieithog yn Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon,
Dymuniadau gorau i chi Barbara a Trevor.

Llwyddiant Eisteddfodol
Gan i rifyn Mis Medi fynd i'r wasg mor gynnar cefais i ddim cyfle i longyfarch amryw o'r pentrefwyr a fu'n llwyddiannus yn Eisteddfod fythgofiadwy Meifod ym Mis Awst. Llongyfarchiadau i Barti'r Efail am ddod i'r brig unwaith eto. Llongyfarchiadau i Menna Thomas yr hyfforddwraig nid yn unig am arwain Parti'r Efail i fuddugoliaeth ond am ennill y wobr gyntaf gyda Gavin Ashcroft am ganu Deuawd Cerdd Dant. Llongyfarchiadau gwresog hefyd i Gôr Godre'r Garth am ddod i'r ail safle yn y Gystadleuaeth i Gorau Cymysg ar Sadwrn Gyntaf yr Ðyl.
   Sylwais hefyd fod gennym amryw o ddawnswyr gwerin yn y pentref. Llongyfarchiadau i Enfys Dixey a ddaeth yn ail gyda Dawnswyr Caerdydd yn y gystadleuaeth i ieuenctid ar y Nos Fercher ac i Hefin Gruffydd, Iolo Roberts, Karen Evans a Guy a Linda Weinzwig a ddaeth yn drydydd gyda Dawnswyr Nantgarw yng nghystadleuaeth Lois Blake. Llongyfarchidau hefyd i Ddawnswyr Nantgarw am gipio'r wobr gyntaf yn y gystadleuaeth Clocsio.

Parti'r Efail y Parti Cerdd Dant buddugol yn Eisteddfod Meifod

Bedydd
Bedyddiwyd Aled, mab bach Dave ac Anwen Robbins, Creigiau yng Ngwasanaeth y Cymun ddechrau Medi. Roedd yn braf cael croesawu ffrindiau ac aelodau o deuluoedd Anwen a Dave i'r Gwasanaeth.

Cylch Drama
Sefydlwyd Cylch Drama yn y festri o dan arweiniad Carol Hardy yn ddiweddar a braf i'w deall i nifer dda o blant rhwng 7 a 12 oed ddod ynghyd i'r cyfarfod agoriadol. Mae lle i rhyw dri neu bedwar arall i ymuno os oes yna ddiddordeb. Y man cyfarfod yw Festri'r Tabernacl ar Nos Fawrth am hanner awr wedi chwech o'r gloch.


Suliau Mis Hydref
Hydref 5ed Gwasanaeth Cymun o dan ofal Y Gweinidog.
Hydref 12ed Gwasanaeth Diolchgarwch
Hydref 19ed Y Parchedig Eirian Rees.
Hydref 26ain Mr Emlyn Davies Pentyrch.

Cymdeithas yr Iaith
RALI FAWR
'Dyfodol i'n Cymunedau'
Neuadd Undeb y Myfyrywr, CAERDYDDD
2pm Dydd Sadwrn Tachwedd 15fed

Siaradwyr - Alun Ffred Jones AC, Leanne Wood AC, Hywel Teifi Edwards
www.cymdeithas.com

I achub cam Tafod Elái am i ni fethu a chofnodi camp arbennig Parti'r Efail yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y rhifyn diwethaf dyma ail lun ohonynt ynghanol eu perfformiad clodwiw.

3

<< Tudalen Blaenorol

Tudalen Nesaf >>